British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 7 Mai 2011, 13:31 GMT 14:31 UK
Penodi arweinydd dros dro

Paul Davies AC
Paul Davies yw'r arweinydd dros dro

Mae Paul Davies, Aelod Cynulliad Preseli Penfro, wedi cael ei ddewis yn arweinydd dros dro y Ceidwadwyr Cymreig.

Cafodd ei ddewis yn unfrydol yng nghyfarfod Grŵp Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig a bwrdd rheoli'r blaid yng Nghymru.

Bydd y broses o ddewis arweinydd parhaol newydd yn dechrau ar Fai 11.

Dywedodd Mr Davies: "Rwyf wrth fy modd i gael fy mhenodi'n arweinydd dros dro y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad.

"Mae'n gyfnod cyffrous eithriadol i'n grŵp ni. Ni yw'r ail blaid fwyaf yn y Cynulliad wedi etholiad llwyddiannus dros ben ac fe fydd fy swydd yn canolbwyntio ar ein gyrru ni ymlaen ar ddechrau'r tymor.

"Nid yn unig yr enillon ni seddi'r wythnos hon ond rydym nawr yn fwy cynrychioliadol hefyd gyda phedair AC benywaidd.

"Er bod hwn yn gyfnod o drobwynt i'r Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r dyn a ddaeth â ni i'r sefyllfa hon heddiw.

'Rhan bwysig'

"Nid oedd yn gallu dal ei afael ar ei sedd ranbarthol ond mae Nick Bourne wedi diodde' oherwydd ei lwyddiant mawr ei hun.

"Mae deuddeg mlynedd o'i weledigaeth glir ac arweiniad wedi bod yn fantais fawr i'r Ceidwadwyr Cymreig.

"Bydd hynny yn rhan bwysig o'n hanes.

"Rwy'n edrych ymlaen at gynorthwyo'r blaid drwy'r cyfnod positif yma."

Bydd proses dewis arweinydd parhaol yn dechrau wrth i'r papurau enwebu gael eu dosbarthu ar Fai 11.

Bydd y Grŵp Ceidwadol yn cwrdd ar Fai 25 i ddewis y ddau ymgeisydd terfynol ac fe fydd y papurau pleidleisio'n cael eu danfon i aelodau ar Fehefin 17.

Bydd y pleidleisiau'n cael eu cyfri, a'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Orffennaf 14.



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific