British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 7 Mai 2011, 09:20 GMT 10:20 UK
'Na' i'r bleidlais amgen

Papur pleidleisio
Fe wnaeth 0.95 miliwn o bobl yng Nghymru bleidleisio

Mae pob etholaeth yng Nghymru wedi pleidleisio 'Na' yn refferendwm y bleidlais amgen (AV).

Yng Nghymru roedd 325,349 o blaid y bleidlais amgen ond 616,307 yn erbyn.

Fe wnaeth 0.95 miliwn o bobl yng Nghymru bleidleisio, 41.7% oedd â'r hawl i bleidleisio, tra oedd 9.8 miliwn (41.8%) yn y Deyrnas Unedig.

Felly fe fydd y drefn bleidleisio bresennol, y cyntaf i'r felin, yn parhau wrth i etholwyr Prydain ethol Aelodau Seneddol.

Roedd y refferendwm yn rhan o gytundeb Llywodraeth Glymblaid San Steffan.

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, fod y bleidlais yn "ergyd fawr" ond bod rhaid iddo dderbyn y canlyniad "hynod glir".

Yn ôl un o wleidyddion amlycaf yr ymgyrch 'Na', Margaret Beckett o'r Blaid Lafur, roedd y canlyniad yn "well nag yr oeddwn wedi ei ddisgwyl".



HEFYD
Pleidlais ar newid y drefn etholiadol
02 Gorff 10 |  Newyddion
Refferendwm arall a llai o ASau
17 Chwef 11 |  Newyddion
Colli ASau: Pasio mesur?
16 Chwef 11 |  Newyddion
Hyder mewn etholiadau yn bwysig
27 Gorff 10 |  Newyddion
Cymru i golli mwy na 25% o ASau?
06 Medi 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific