British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 8 Mai 2011, 09:03 GMT 10:03 UK
Cabinet cyngor yn cymeradwyo cau pedair ysgol

Argraff artist o'r ysgol newydd ym Mrynhoffnant
Fe fydd lle i 150 o ddisgyblion yn yr ysgol newydd

Mae cynllun i gau pedair ysgol gynradd fach a chodi un yn eu lle gam yn nes oherwydd penderfyniad Cabinet Cyngor Ceredigion i roi eu sêl bendith.

Bydd ysgol newydd ar gost o £5 miliwn yn cael ei chodi ym Mrynhoffnant a disgwylir iddi agor ym Medi 2012.

Bydd ysgolion Blaenporth, Glynarthen, Pontcarreg a Rhydlewis yn cau ar Awst 31, 2012.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor Ceredigion na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i'r cynigion.

Ychwanegodd y llefarydd: "Cafodd y prosiect gefnogaeth unfrydol yn y pedair cymuned ac mae cryn edrych ymlaen yn yr ardal.

"Ni ddisgwylir i waith adeiladu'r ysgol newydd ddechrau cyn i'r cyngor llawn gymeradwyo'r cynllun yn ystod y mis nesa."

Fe fydd lle i 150 o ddisgyblion yn yr ysgol newydd.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific