British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 7 Mai 2011, 11:36 GMT 12:36 UK
Sian Owen yn dderwydd gweinyddol Eisteddfod Mn

Sian Owen
Mae Sian Owen wedi ennill prif wobrau llenyddol Eisteddfod Mn

Yr awdures Sian Owen, Sian Penllyn, yw'r fenyw gyntaf i fod yn dderwydd gweinyddol Eisteddfod Môn.

Roedd yn cymryd rhan yn y seremoni gyhoeddi yn Llanfairpwll brynhawn Sadwrn.

"Mae'r penodiad yn anrhydedd ac yn gydnabyddiaeth efallai o'r cyfraniad y mae rhywun wedi ei wneud i'r maes llenyddol," meddai.

"Dw i wedi cael yr anrhydedd yn weddol ifanc.

"A bod yn onest, dwi'n meddwl bod hyn yn adlewyrchiad o'r ffaith bod Llys yr Eisteddfod yn gwneud ei orau i ddenu mwy o bobl ifanc i fod yn rhan o weithgareddau'r Eisteddfod."

Roedd yr orymdaith yn dechrau o Ysgol Gynradd Llanfairpwll am 1.30am.

Band Porthaethwy oedd yn arwain yr orymdaith cyn bod y seremoni'n dechrau am 2pm ar gae'r ysgol.

Rhestr hir

Ganed Sian yn Llanuwchllyn ond fe'i magwyd ar Ynys Môn.

Aeth i Ysgol Uwchradd Bodedern a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth.

Eisoes mae hi wedi ennill Cadair, Coron a Medal Ryddiaith Eisteddfod Môn ac roedd ei nofel gyntaf i oedolion, Mân Esgyrn, ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2010.

Disgyblion Ysgol Gynradd Llanfairpwll ac Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel, oedd yn perfformio'r ddawns flodau a Gwen Rhys Thomas o Ysgol David Hughes oedd yn cyflwyno'r aberthged.

Huw Tomos Harvey ac Elis Roberts oedd Cludwyr y Faner a Siôn Withers oedd yn canu'r Corn Gwlad.

Gethin Davies oedd yn llefaru'r Gerdd Groeso yr oedd Huw Dylan Jones wedi ei chyfansoddi.

Gan fod angen i'r pentre a'r cylch godi o leia £20,000 i gynnal yr Eisteddfod mae casgliad wedi bod o ddrws i ddrws.

Ar Fehefin 11 fe fydd bwffe arbennig lle bydd Elin Fflur a'r Band yn perfformio.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific