Rhiannon Michael
BBC Cymru
|
Newyddion Arlein BBC Cymru sy'n bwrw golwg ar yr hyn sy'n digwydd yn ystod dydd Gwener wrth i ganlyniadau Etholiad y Cynulliad barhau i gyrraedd. Isod mae'r hyn sy'n digwydd o 9am ddydd Gwener ymlaen. Am weddill y manylion - yr hyn ddigwyddodd dros nos tan 9am
cliciwch yma.
Am y manylion llawn o'ch etholaeth chi,
cliciwch yma
.
13.46 CANLYNIAD TERFYNOL
LLAFUR 30 CEIDWADWYR 14 PLAID CYMRU 11 DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL 5
13.44 RHANBARTH Y GOGLEDD
Dau i'r Ceidwadwyr: Mark Isherwood ac Antoinette Sandbach Un i Blaid Cymru: Llŷr Huws-Gruffydd Un i'r Democratiaid Rhyddfrydol: Aled Roberts 13.36 150 pleidlais oedd ynddi rhwng Plaid Cymru'n ennill 11 sedd a Phlaid Cymru yn ennill 14 sedd - Richard Wyn Jones. 13.33 Etholaethau i gyd wedi ei cyhoeddi, aros yn unig am bedair sedd rhanbarth y Gogledd. Edrych yn debyg mai 2 i'r Ceidwadwyr, 1 i Blaid Cymru, 1 i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
13.28 DE CLWYD
Llafur yn ennill. Ken Skates yn AC.
13.26 DELYN
Llafur yn cadw. Sandie Mewies yn AC. 13.25 Elin Jones ar Lanelli: "Heb yr ymgeisydd annibynnol gallai'r canlyniad fod wedi bod yn wahanol." Ar yr ymgyrch: "Mae gwersi i'w dysgu o'r canlyniad." 13.22 Sefyllfa ddiweddaraf: LLAFUR 28 (+4) CEIDWADWYR 12 (+2) PLAID CYMRU 10 (-4) DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL 4 (-1) 6 sedd ar ôl i gyhoeddi,
13.19 WRECSAM
Llafur yn cadw. Lesley Griffiths yn AC.
13.15 ALUN A GLANNAU DYFRDWY
Llafur yn cadw. Carl Sargeant yn AC. 13.13 "Hollol bosibl" i lywodraethu trwy ddod i gytundeb â phleidiau eraill ar bynciau unigol wrth symud ymlaen -Carwyn Jones. "Mae'n bwysig iawn ymestyn allan i bleidiau eraill." 13.11 "Beth y'n ni ishe gwneud yw sicrhau bod llywodraeth gadarn gan Gymru o wythnos nesaf ymlaen. R'yn ni wedi gwneud llawer yn well na phedair blynedd yn ôl. Dyw hi byth yn rhwydd os nad oes mwyafrif mawr gyda chi ond mae yn bosibl." -Carwyn Jones. 13.09 "Wedi gobeithio cael mwy o seddi ond mae hwn yn well na beth o'n ni'n meddwl yn breifat... Roedd e'n bwysig i ni ein bod ni'n ennill tir ar draws Cymru. Beth sy'n bwysig yw ein bod ni wedi cymeryd mwy o ganran o'r bleidlais nag erioed o'r blaen mewn etholiad Cynulliad." - Carwyn Jones AC. 13.05 Arwyddion i gyd yn dweud y bydd Llafur yn ennill 30 sedd.
13.03 YNYS MÔN
Plaid Cymru yn cadw. Ieuan Wyn Jones yn AC 12.57 Llafur yn annebygol o ennill mwy na 30. Canlyniad ar hyn o bryd: LLAFUR 26 (+4) CEIDWADWYR 12 (+2) PLAID CYMRU 9 (-3) DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL 4 (-1) Disgwyl cyhoeddiad 9 sedd arall.
12.52 ABERCONWY
Ceidwadwyr yn cipio. Janet Finch-Saunders yn AC. 12.51 David Melding ddim am roi ei enw ymlaen fel arweinydd y Ceidwadwyr. 12.47 Aled Roberts Democratiaid Rhyddfrydol yn "obeithiol iawn" o gadw sedd y blaid ar y rhestr ranbarthol. "Carfan o bump yn hytrach na 6" fydd ganddyn nhw, "llawer iawn gwell" na'r darogan. Kirsty Williams "wedi gweithio'n galed iawn" ond y blaid "wedi gweld problemau" ar draws Prydain a sefyllfa Cymru lawer yn well. 12.46 Partner clymbleidio "amlwg" Llafur yw'r Democratiaid Rhyddfrydol - Richard Wyn Jones 12.43 35% wedi pleidleisio yn Wrecsam a 37% yn Ne Clwyd. Disgwyl canlyniadau rhwng 1330 a 1400. 12.40 "Mae'n amlwg bydd Llywodraeth Llafur yma." -Alun Davies AC yn y Cynulliad. 12.38 Leighton Andrews AC yn cynnig rhedeg ymgyrch arweinyddaeth Plaid Cymru dros Elin Jones AC ar BBC 1. 12.35 Dafydd Elis Thomas yn dweud bod pwy sy'n Llywydd yn y Cynulliad nesaf yn nwylo eraill. Ond hefyd yn dweud bod lle i aelodau cryf i gadeirio pwyllgorau yn y Cynulliad. 12.32 "Doedd y tôn gwrth - Lafur [yn ymgyrch Plaid Cymru] ddim yn un o'n i'n meddwl oedd yn gweithio... ro'n i wedi dadlau yn erbyn hynny yn breifat ers misoedd." - Dafydd Elis-Thomas. 12.30 Dafydd Elis-Thomas yn dweud ei bod hi'n "annerbyniol bod swyddog cyflogedig yn penderfynu pryd oedd y cyfrif yn y gogledd. Mae'n dweud nad yw popeth ar ben i Blaid Cymru eto. "Dydy'r perfformiad ddim wedi gorffen - mae'n dibynnu sut maer' gyfundrefn ar y rhestr yn gwneud iawn am golledion etholaeth. Mae'r annisgwyl yn gallu digwydd." 12.27 David Melding yn dweud bod pleidlais y Ceidwadwyr wedi bod yn syndod o dda. 12.23 Sefyllfa erbyn hyn: LLAFUR 26 (+4) CEIDWADWYR 11 (+1) PLAID CYMRU 9 (-3) DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL 4 (-1) 12.21 Aled ap Dafydd yn dweud bod Aled Roberts yn Wrecsam yn parhau'n ffyddiog o gael ei ethol ar restr y Gogledd i'r Democratiaid Rhyddfrydol
12.17 GORLLEWIN CLWYD
Ceidwadwyr yn cadw. Llafur yn colli tir. Darren Millar yn AC.
12.16 ARFON
Plaid Cymru yn cadw. Alun Ffred Jones yn AC. 12.14 Disgwyl datganiad Gorllewin Clwyd o fewn y munudau nesaf - John Stevenson yn Llandudno. 12.11 Guto Bebb yn dweud mai'r disgwyl dros nos oedd i Lafur gipio Aberconwy o wirio pledleisiau'r dydd ond bod y bleidlais bost sy'n cael eu cyfrif heddiw yn awgrymu llwyddiant i'r Ceidwadwyr. 12.07 Peter Black AC ddim wedi disgwyl dod yn ôl ac wedi trefnu rhentu ei swyddfa allan am ei fod yn credu mai Dr Dai Lloyd Plaid Cymru fyddai'n cael sedd rhanbarth Gorllewin De Cymru. 12.05 Richard Wyn Jones yn dweud bod y Democratiaid Rhyddfrydol "wedi cael dihangfa wyrthiol" a Phlaid Cymru yw collwyr y noson.
12.02 DYFFRYN CLWYD
Llafur yn cadw. Ann Jones yn AC. 12.02 BBC Cymru yn ail ddechrau darlledu ar S4C. 11.52 Cyfri'n dechrau yn Wrecsam a De Clwyd. 11.48 Cyfri'n dechrau yn Aberconwy. 11.47 Mae bron yn sicr bydd Llafur yn ennill 30 sedd yn cilyn y cyfrif dros nos ond mae dal yn ansicr a fyddan nhw'n cael y mwyafrif clir o 31 sedd. 11.26 Andrew RT Davies AC yn dweud bydd bwrdd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyfarfod yr wythnos hon i benodi arweinydd dros dro i gymeryd lle Nick Bourne sydd wedi colli ei sedd. Bydd ACau Ceidwadol yn cynnig enwau maes o law. Yr aelodau fydd yn penodi'r arweinydd yn y pendraw. Does ganddyn nhw ddim dirprwy arweinydd. 11.24 Carwyn Jones ym mhencadlys Llafur yng Nghaerdydd, Transport House, yn dweud wrth ffyddloniaiad bod ganddyn nhw'r gyfran fwyaf o bleidleisiau mae Llafur erioed wedi cael mewn etholiad Cynulliad. Mae'n dweud ei bod yn edrych yn debyg bod ganddyn nhw 30 sedd a bod pobol Cymru eisiau iddyn nhw lywodraethu. 11.13 Ail wirio pleidleisiau rhanbarthol yn Aberconwy, sy'n golygu bydd oedi cyn dechrau cyfri pleidleisiau'r etholaeth. Cyfrif newydd ddechrau yn Nwyrain Clwyd 11.04 Sefyllfa'r pleidiau wrth i ni aros canlyniad cyntaf : Llafur 25 Ceidwadwyr 10 Plaid Cymru 8 Democratiaid Rhyddfrydol 4 10.48 Nifer bleidleisiodd yn Wrecsam 35.3% Nifer bleidleisiodd yn Ne Clwyd 37.06% 10:19 Ffynonellau Ceidwadol yn rhagweld y bydd hi'n "agos iawn" yn Aberconwy 10:11 Disgwyl Canlyniad Wrecsam tua 11.30. 09.32 Nifer bleidleisiodd yn Aberconwy yn 45.48 % ac yng Ngorllewin Clwyd 43.68% 09.27 Nifer sydd wedi pleidleisio yn Nyffryn Clwyd yn 41.3%. Y gwaith o gyfri papurau pleidlais y gogledd yn mynd rhagddo yno gyntaf. Wedyn y bydd pleidleisiau'r etholaeth yn cael eu cyfri.
09.15 RHANBARTH CANOL DE CYMRU
Dau aelod Ceidwadol - Andrew RT Davies a David Melding; Un Plaid Cymru - Leanne Wood; Un Democrat Rhyddfrydol - John Dixon. Plaid Cymru wedi colli un sedd (Chris Franks) a'r Democratiaid wedi ennill un. 09.00 Etholaethau'r gogledd yn cychwyn cyfri. Dal i aros am ganlyniad Rhanbarth Canol De Cymru hefyd.
|