Mae Llafur wedi awgrymu eu bod yn disgwyl llywodraethu ym Mae Caerdydd erbyn diwedd wythnos nesa.
Ond yn y tymor hir, meddai rhai ffynonellau, fe fyddai clymblaid yn helpu'r broses o basio deddfau a gweithredu rhan fwya maniffesto Llafur.
Er iddyn nhw gael canlyniadau llwyddiannus yn Etholiad y Cynulliad mae Llafur un sedd yn brin o'r 31 oedd ei hangen er mwyn sicrhau mwyafrif clir.
Keith P Davies yn ennill etholaeth Llanelli
Mae gan Lafur 30 Aelod Cynulliad, y Ceidwadwyr 14, Plaid Cymru 11, a'r Democratiaid Rhyddfrydol bump.
Nos Wener dywedodd Carwyn Jones: "Mae unrhyw opsiwn yn bosib ar hyn o bryd ond beth sy'n bwysig yw bod llywodraeth gadarn i Gymru.
"Un opsiwn yw ein bod ni'n llywodraethu ar ein pennau ein hunain ond mae opsiynau eraill, gan gynnwys trefniadau anffurfiol â phleidiau eraill.
"Mae'r canlyniadau newydd fod a wy'n siwr y bydd pob plaid yn ystyried ei pherfformiad yn ofalus yn ystod y dyddiau nesa."
Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, wrth BBC Cymru: "Mae unrhywbeth yn bosib.
"Ond beth sy'n bwysig yw mesur a phwyso beth mae pobl Cymru wedi ei benderfynu.
"Does dim brys i wneud unrhywbeth."
Mae Alun Ffred Jones AC o Blaid Cymru wedi dweud: "Mae angen asesiad llym ar ein perfformiad yn yr etholiad cyn brysio a phenderfynu ...
'Llunio dyfodol'
Bydd y Cynulliad yn cyfarfod yr wythnos nesaf (yr union ddyddiad i'w benderfynu) i ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Wedyn bydd gan Aelodau'r Cynulliad 28 diwrnod i ethol Prif Weinidog.
Golwg ar y canlyniadau
Dywedodd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad: "Bydd y 60 Aelod hyn nawr yn helpu i lunio dyfodol Cymru ar ran eu hetholwyr a byddan nhw'n gallu gwneud hynny mewn modd mwy effeithiol o ganlyniad i gymhwysedd deddfwriaethol ehangach y Cynulliad.
"Bydd y Cynulliad hwn yn anelu at ymgysylltu'n fwy effeithiol nag erioed o'r blaen gydag ystod o gymunedau ledled Cymru drwy waith ein pwyllgorau a'n system ddeisebau, gan ddefnyddio ystod o sianelau cyfathrebu."
'Mwy o hyblygrwydd'
Yn y cyfamser, cyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad fod y rheolau sy'n ymwneud â busnes y Cynulliad wedi cael eu diweddaru "er mwyn cynyddu cyfranogiad yn y broses ddeddfu ac i ganiatáu mwy o hyblygrwydd yn y modd y mae'r Cynulliad yn gweithio".
Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys:
- Bydd Aelodau'r Cynulliad nad ydyn nhw'n aelodau o'r Llywodraeth yn cael mwy o gyfle ac amser i gyflwyno materion i'w trafod;
- Cynhelir pleidleisiau cynharach ar gyfer dadleuon Aelodau nad ydyn nhw'n aelodau o'r llywodraeth, er mwyn rhoi mwy o amser iddyn nhw baratoi, e.e. drwy ymgynghori mwy â rhanddeiliaid;
- Bydd haen ddewisol arall o waith craffu yn y broses ddeddfu i ganiatáu mwy o welliannau ar ôl y Cyfnod 3 presennol;
- Bydd gofyn i Aelodau gofrestru faint o amser y maen nhw'n neilltuo i swyddi a dyletswyddau y maen nhw'n derbyn tâl ar eu cyferheblaw am eu cyfrifoldebau yn y Cynulliad.
Dywedodd Helen Mary Jones ei bod yn "siomedig"
Fe lwyddodd Llafur i gipio seddi oddi wrth y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Wrth i ranbarth y gogledd orffen cyfri brynhawn Gwener daeth yn amlwg fod Llafur wedi ennill 30 o seddau.
Y Ceidwadwyr yw'r ail blaid fwyaf gyda 14 aelod, ond roedd yna siom i'w arweinydd Nick Bourne a gollodd ei sedd ar restr Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Roedd hi'n noson wael i Blaid Cymru sydd ag 11 sedd a'r Democratiaid Rhyddfrydol, pum sedd.
Ddydd Gwener llwyddodd y Ceidwadwyr i gipio hen sedd Gareth Jones yn Aberconwy oddi wrth Blaid Cymru.
Roedd Llafur wedi gobeithio ennill y sedd ac felly sicrhau 31 o seddi - ond nid felly bu.
Llanelli
Dechreuodd y noson yn dda i Lafur gydag Alun Davies yn ennill y sedd gyntaf i'w chyhoeddi, Blaenau Gwent.
Roedd y sedd gynt yn nwylo'r Aelod Annibynnol Trish Law, yna daeth y newyddion fod Llafur wedi ennill etholaeth Llanelli oddi wrth Blaid Cymru.
Siom: Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol
Cipiwyd Canol Caerdydd oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol a llwyddodd Llafur i drechu'r Torïaid yng Ngogledd Caerdydd.
Dywedodd Peter Hain AS, cyn Ysgrifennydd Cymru, fod Llafur mewn safle cryf i reoli Cymru "boed fwyafrif neu beidio."
"Mae pleidleiswyr wedi ymateb i arweinyddiaeth Carwyn Jones a'n haddewid i ymladd cornel Cymru."
Noson siomedig iawn gafodd y Democratiaid Rhyddfrydol, gan orffen y tu ôl i'r BNP a cholli ernes mewn rhai etholaethau.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.