British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 6 Mai 2011, 09:03 GMT 10:03 UK
Y pleidiau llai yn methu creu argraff

Logo'r Blaid Werdd

Roedd hi wedi argoeli i fod yn noson ddiddorol i'r pleidiau llai yn Etholiadau'r Cynulliad yng Nghymru.

Doedd dim disgwyl i'r un ennill etholaeth ond roedd dwy o'r pleidiau yn hyderus o gipio sedd ranbarthol ar y bleidlais gyfrannol.

Roedd Jake Griffiths, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, wedi dweud ar ddechrau'r noson ei fod yn hyderus o gipio sedd fel cynrychiolydd Canol De Cymru.

Ond erbyn iddi wawrio a'r canlyniad methu wnaethon nhw ag ennill sedd.

Roedden nhw'n gobeithio dilyn y blaid yn Lloegr yn Etholiad y Cynulliad.

Llwyddodd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i gael aelodau gyda'r Ceidwadwyr yn cipio dwy.

Roedd y Blaid Werdd wedi gobeithio cael 7% o'r bleidlais.

Roedden nhw'n bedwerydd yn y rhanbarth, tua 6,000 pleidlais y tu ôl i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

"Mae'n siomedig ond rwy'n falch iawn o ymgyrch y blaid," meddai Mr Griffiths.

"Doedd ganddo ni ddim yr un adnoddau a'r pleidiau mwy," ychwanegodd.

UKIP

Logo UKIP

Plaid arall oedd yn credu eu bod wedi gwneud yn ddigon da i gipio sedd ranbarthol oedd UKIP.

Rhanbarth Dwyrain De Cymru oedd y nod iddyn nhw yn ôl eu cynrychiolydd ar y rhestr yno, David Rowlands.

Ond er iddyn nhw gynyddu eu pleidlais yn y rhanbarth, doedd y cynnydd ddim yn ddigon i gipio sedd yn y Cynulliad.

Yn ystod y noson roedden nhw mor obeithio fel bod eu harweinydd yn y DU, Nigel Farage, wedi mynd i'r cyfri.



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific