Fydd Nick Bourne ddim yn dychwelyd i'r Cynulliad
|
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, oedd yn sefyll yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi colli ei sedd. Sylweddolodd hyn oherwydd sylwadau ar y wefan Trydar pan ddihunodd yn oriau mân fore Gwener. Llwyddiant gynta'r noson i'r Ceidwadwyr oedd cipio sedd Maldwyn oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Enillodd Russell Ian George y sedd gyda mwyafrif o dros 2,000. Roedd y cynnydd o 13.6% yn eu pleidlais. Yn y gogledd cipiodd Janet Finch-Saunders sedd Aberconwy oddi ar Blaid Cymru. Yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro fe wnaeth y Ceidwadwyr ddal eu gafael ar y sedd yn wyneb ymdrech gref Llafur a Phlaid Cymru. Rhoi'r gorau Yr un oedd yr hanes yng Ngorllewin Clwyd, gyda Darren Millar yn cynyddu ei fwyafrif dros Lafur a Phlaid Cymru. Llwyddodd Angela Burns i gadw'r sedd a chynyddu ei mwyafrif wrth wneud hynny - er bod ei dau brif wrthwynebydd wedi awgrymu ei bod wedi rhoi'r gorau i ymgyrchu ers yn gynnar yn yr ymgyrch.
Russell George (ar y dde) enillodd Maldwyn i'r Ceidwadwyr
|
Wedi dweud hynny, roedd cynnydd ym mhleidlais Llafur a Phlaid Cymru, gyda phleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol yn chwalu. Yng Ngorllewin De Cymru, enillodd y Blaid Geidwadol ddwy sedd - cynnydd o un ar draul Plaid Cymru gyda Dr Dai Lloyd yn colli ei sedd. Yn rhanbarth Canol De Cymru Andrew R T Davies a David Melding sy'n cynrychioli'r blaid unwaith eto. Ond colli oedd hanes Jonathan Morgan yng Ngogledd Caerdydd wrth i Julie Morgan ennill sedd. 1,782 Enillodd hi 1,782 yn fwy na Mr Morgan - mwyafrif llawer cliriach na'r 194 pleidlais oedd rhyngddi hi a Jonathan Evans yn yr etholiad cyffredinol. Colli wnaeth Angela Jones-Evans ym Mro Morgannwg. Roedd hi wedi gobeithio disodli Jane Hutt o Lafur wedi i Alun Cairns gipio'r sedd Seneddol i'r Ceidwadwyr. Ond cynyddodd Ms Hutt ei mwyafrif o 84 pleidlais yn 2007 i 3,775 eleni Roedd y Ceidwadwyr wedi dweud bod ganddyn nhw obaith o gipio sedd Brycheiniog a Maesyfed oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol ond llwyddodd Kirsty Williams i ddal ei gafael ar y sedd. Mae'r Ceidwadwyr wedi cynyddu ei cynrychiolaeth yn y Cynulliad gyda phob etholiad, a dyw etholiad 2011 ddim gwahanol. O'r 14 Ceidwadwr fydd yn y Cynulliad o hyn ymlaen, mae pum wyneb newydd.
|