British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 6 Mai 2011, 16:11 GMT 17:11 UK
'Canlyniadau siomedig' i'r Democratiaid Rhyddfrydol

Cyhoeddiad Brycheiniog a Maesyfed
Wedi'r cyhoeddiad cyfaddefodd Kirsty Williams fod yr ymgyrch wedi bod yn her

Roedd rhai wedi rhagweld y byddai Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, yn colli ei sedd ym Mrycheiniog Maesyfed.

Ond roedd ochenaid o ryddhad wrth iddi ddal ei gafael ar y sedd er i'w phleidlais ostwng 9.2%.

Wedi'r canlyniad dywedodd hi wrth BBC Cymru: "Mae hi wedi bod yn ymgyrch anodd iawn i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru. Rydym wedi gweld canlyniadau siomedig iawn heno.

"Mae hi wedi bod yn her enfawr i ni gyda'n cydweithwyr yn San Steffan mewn grym am y tro cynta.

"Rydym yn gyson yn cael ein holi am effaith y glymblaid yno ar ein gwleidyddiaeth yma yng Nghymru."

Collwyd Maldwyn i'r Ceidwadwyr a chipiodd Llafur sedd Canol Caerdydd ac mae pum cynrychiolydd gan y blaid yn y Cynulliad.

Gwobr gysur colli'r seddi traddodiadol ddiogel oedd ennill sedd yn rhanbarth Canol De Cymru.

Ym Maldwyn llithrodd eu pleidlais 5.4% wrth i Russell Ian George gael ei ethol i'r Ceidwadwyr.

Efallai nad oedd hyn yn gwbl annisgwyl gan i Glyn Davies AS gipio'r etholaeth i'r Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol y llynedd.

Diarddel

Hon hefyd oedd sedd Mick Bates ddygodd anfri ar ei blaid wedi iddo'i gael yn euog o ymosod ar weithiwr iechyd.

Cafodd ei ddiarddel o'r blaid.

Canol Caerdydd oedd sedd fwyaf diogel y blaid, sedd y Farwnes Randerson o 1999 tan 2011, ond Llafur enillodd â mwyafrif o 38 pleidlais yn unig.

Roedd Dwyrain Casnewydd yn un o dargedau'r Democratiaid Rhyddfrydol ond mewn canlyniad trychinebus iddyn nhw fe aeth o'r ail safle yn 2007 i'r trydydd safle'r tro hwn gyda bron 9% yn llai o'r bleidlais.

Collodd Veronica German ei sedd yn rhanbarth Dwyrain De Cymru wrth i Mohammed Ashgar o'r Ceidwadwyr ennill yr ail sedd.

Dechreuodd y noson yn siomedig i'r blaid, wrth golli eu hernes ym Mlaenau Gwent - dim ond 367 o bleidleisiau gafodd eu hymgeisydd, Martin Blakebrough.

Cadw ei sedd

Daeth newyddion da i'r blaid wrth i William Powell ennill sedd ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Caerdydd ac fe gafodd John Dixon sedd ar restr rhanbarth Canol De Cymru ar draul Plaid Cymru.

Llwyddodd Peter Black i gadw ei sedd yn rhanbarth Gorllewin De Cymru.

Wedyn cyhoeddwyd y byddai Aled Roberts, arweinydd Cyngor Wrecsam, yn cynrychioli'r Democratiaid Rhyddfrydol ar restr rhanbarth y Gogledd.

O'r pum aelod sy'n dychwelyd i'r Cynulliad, dau sy'n hen lawiau. Bydd Aled Roberts, William Powell a John Dixon yn cymryd llw fel aelodau newydd.



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific