British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 6 Mai 2011, 09:06 GMT 10:06 UK
Darlledu'n fyw o warchodfa natur

Gwarchodfa natur Ynys-hir (delweddau RSPB Andy Hay )
Mae cynlluniau hefyd i chwilio am yr 19 rhywogaeth o was y neidr, 26 rhywogaeth glyn byw, a thros 400 rhywogaeth o bryf y gannwyll.

Bydd rhaglen bywyd gwyllt y BBC 'Springwatch' yn cael ei darlledu'n fyw o warchodfa natur ym Mhowys eleni, mae'r BBC wedi cyhoeddi.

Am dair wythnos, fe fydd y rhaglen yn sefydlu ei hun yng ngwarchodfa 700 hectar Ynys-hir ger Machynlleth, a reolir gan yr elusen gwarchod adar, RSPB Cymru.

Bydd mwy na 50 o gamerâu bach cudd yn cael eu defnyddio, rhai yn cael eu gweithredu gan baneli solar.

Bydd lluniau byw yn cael eu darlledu o grychyddion llwyd a chrehyrod bach copog.

Cyflwynir y rhaglen gan Kate Humble, Chris Packham a Martin Hughes-Games a bydd y rhaglen fyw hefyd yn cynnwys eitemau wedi eu recordio yn y warchodfa a thu hwnt.

Dywedodd Mike Clarke, prif weithredwr yr RSPB eu bod wrth eu boddau bod y rhaglen wedi dewis darlledu o Ynys-hir.

crehyr ach copog
Bydd crehyrod bach copog ymysg sr y rhaglen

"Mae Springwatch yn gwneud gwaith gwych wrth ysbrydoli miliynau o bobl am fywyd gwyllt.

"Mae'n hynod bwysig bod pobol yn cael eu hysbrydoli i adael y lolfa i fynd i fwynhau bywyd gwyllt".

Bydd bron 40 milltir o gêblau ar gyfer rhwydwaith ffibr optig yn cael eu defnyddio er mwyn darleddu'n fyw.

Yn ogystal â'r crychyddion llwyd a chrehyrod bach copog, bydd y rhaglen yn gobeithio gweld cnocell y coed, ac adar ysglyfaethus fel gelyn yr ieir, gwyddwalch, a'r barcud coch.

Mae cynlluniau hefyd i chwilio am yr 19 rhywogaeth o was y neidr, 26 rhywogaeth glöyn byw, a thros 400 rhywogaeth o bryf y gannwyll.

Dywedodd warden Ynys-hir, Russell Jones: "Bydd amrywiaeth y cynefinoedd yn sicrhau y bydd digon i weld a ry' ni'n gobeithio na fydd yr adar a'r bywyd gwyllt eraill yn rhy swil o'r camerâu".

Mae Springwatch yn dychwelyd ar Fai 30, 8pm ar BBC Two.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific