Cyngor: 'Chafodd yr orsaf ddim ei chau'
|
Mae swyddogion etholiadol wedi galw'r heddlu wedi i gi gnoi tri o bleidleiswyr. Roedd dau gi wedi dianc o dŷ cyfagos cyn i un anafu tri o bleidleiswyr yng Nghwmffrwd ger Caerfyrddin. "Fe gafodd warden cŵn a phlisman eu galw," meddai'r cyngor. "Chafodd yr orsaf ddim ei chau ond roedd problemau, yn anodd i bleidleiswyr gamu heibio'r cŵn. "Erbyn y cyrhaeddodd y warden roedd y perchennog wedi mynd â'r cŵn adre," meddai'r cyngor. Deellir bod rhai pleidleiswyr wedi aros yn eu ceir cyn i'r cŵn gael eu symud am 10.30am. Dywedodd yr heddlu: "Fe gafodd y tri anafiadau a chafodd y perchennog gyngor. "Roedd y tri'n fodlon ar hynny."
|