Mae'r tanau yn effeithio ar fywyd gwyllt ac adar sy'n nythu
|
Mae tanau gwair sy'n llosgi ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi eu galw y rhai gwaethaf ers 30 mlynedd. Mae rheolwyr y parc yn dweud fod y tanau yn effeithio ar fywyd gwyllt ac adar sy'n nythu. Dechreuodd nifer o danau eraill dros nos, yn cynnwys tân ar bedair erw o dir yn Llwynypia yng Nghwm Rhondda. Yn ogystal cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru alwad brys i ddiffodd tân eithin yn Sarn Helen, ger Llanbedr Pont Steffan.
 |
Hon yw'r sefyllfa waethaf rydyn ni wedi dioddef ers 20 neu 30 mlynedd
|
Mae tua 35 o ddiffoddwyr yn ceisio diffodd tân eithin sydd wedi lledu dros chwarter milltir ym Moel y Gest, ger Morfa Bychan, Porthmadog. Mae diffoddwyr tân Cymru wedi datgan y byddan nhw'n ceisio erlyn pobl sydd wedi dechrau tanau yn fwriadol wedi iddynt geisio diffodd dros 300 o danau gwair ac eithin er Mai 1. Tymor nythu Mae 2,000 erw o fawnog a thir comin wedi bod ar dân ers tridiau yn yr ardal o'r Bannau rhwng Trapp, Brynaman a Llandeilo Dywedodd Judith Harvey, Rheolwr Ardal, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: "Rydyn ni wedi colli llystyfiant a nifer o nithoedd adar yn sgil y llosgi.
Mae 2,000 erw wedi bod ar dân ers tridiau
|
"Dydyn ni ddim wedi gorfod ceisio diffodd gymaint o danau yn ystod y tymor nythu o'r blaen. "Hon yw'r sefyllfa waethaf rydyn ni wedi dioddef ers 20 neu 30 mlynedd." Dywedodd Gary Williams, Rheolwr Sirol Cynorthwyol Abertawe, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Yr adeg hon o´r flwyddyn, rydym yn dueddol o weld cynnydd mewn tanau glaswellt oherwydd y tywydd sych a´r gwynt. "Mae´n anffodus ein bod yn gweld cynnydd yn y nifer o danau sy´n cael eu cynnau´r adeg hon o´r flwyddyn, pan fod pobl yn cynnau glaswellt sych ac eithin. "Mae´r gwasanaeth tân yn gweithio´n agos gyda´r heddlu i geisio sicrhau erlyniadau, pan ein bod yn amau bod gweithgarwch anghyfreithlon wedi digwydd. "Dylai unrhyw un sy´n amau eu bod yn gweld tân yn cael ei gynnau´n fwriadol ffonio´r Heddlu ar unwaith, neu fel arall gallant ffonio Taclo´r Taclau´n gyfrinachol ar 0800 555 111."
|