Un o nifer o wynebau newydd y Cynulliad fydd Keith Davies
|
Mae Llafur wedi cael etholiad llwyddiannus gan gipio seddi oddi ar Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol a chadw seddi ymylol yn 2007 gyda mwyafrif clir. Erbyn i'r cyfrif ddod i ben bnawn Gwener roedd y blaid wedi ennill 30 allan o 60 o seddi'r Cynulliad Cenedlaethol. Y seddi cyntaf i ddychwelyd i'r gorlan Llafur oedd Llanelli (Plaid Cymru) a Blaenau Gwent (Annibynnol). Wedi iddi wawrio daeth cyhoeddiad eu bod hefyd wedi cipio sedd Gogledd Caerdydd oddi wrth y Ceidwadwyr, sedd Canol Caerdydd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol ac wedi cynyddu eu mwyafrif yn sylweddol ym Mro Morgannwg. "Roedd e'n bwysig i ni ein bod ni'n ennill tir ar draws Cymru," meddai Carwyn Jones wrth iddi ddod yn amlwg ei bod hi'n mynd i fod yn noson dda i'w blaid. "Beth sy'n bwysig yw ein bod ni wedi cymeryd mwy o ganran o'r bleidlais nag erioed o'r blaen mewn etholiad Cynulliad. "Beth y'n ni ishe gwneud yw sicrhau bod llywodraeth gadarn gan Gymru o wythnos nesaf ymlaen. "R'yn ni wedi gwneud llawer yn well na phedair blynedd yn ôl." Adfer Llanelli Pan ddaeth canlyniad Llanelli yn oriau man fore Gwener, roedd strategwyr yn gwybod y byddai'n hwb i nod Llafur o ennill mwyafrif yn y Cynulliad. Yn y pendraw roedd y blaid yn brin o fwyafrif clir, gan ennill union hanner y seddi, 30. Curodd Keith Davies Helen Mary Jones gyda mwyafrif o 80 pleidlais yn unig. Llwyddiant clir i'r blaid oedd cipio Gogledd Caerdydd oddi wrth y Ceidwadwyr a gweld y cyn-Aelod Seneddol, Julie Morgan, yn mynd i Fae Caerdydd. Collodd Jonathan Morgan y sedd mae wedi ei dal ers 2007 o 1,782 pleidlais. Blaenau Gwent
Alun Davies enillodd sedd gyntaf y noson
|
Cafodd Alun Davies 12,926 o bleidleisiau ym Mlaenau Gwent, sedd fu yn nwylo annibynnol ers 2003. Wnaeth Trish Law ddim sefyll eto eleni, ond daeth ei holynydd annibynnol Jayne Sullivan yn ail gyda 3,806 pleidlais. Roedd hi'n ymgyrchu am well gwasanaethau canser. Llwyddodd y Blaid hefyd i gipio sedd Canol Caerdydd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol gyda mwyafrif o 38 pleidlais yn unig. Dyma sedd mwya ymylol y Cynulliad. Cynyddodd Jane Hutt ei phleidlais ym Mro Morgannwg o 84 yn 2007 i 3,775 eleni, etholaeth oedd wedi ei dargedu gan y Ceidwadwyr wedi i Alun Cairns ei hennill yn gyfforddus yn yr etholiad cyffredinol. O 30 aelod newydd Llafur, mae 13 yn wynebau newydd. Ymddeolodd wyth aelod Llafur ar ôl y trydydd Cynulliad.
|