British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 6 Mai 2011, 15:04 GMT 16:04 UK
Ergyd i Blaid Cymru

Helen Mary Jones
Collodd Helen Mary Jones etholaeth Llanelli

Roedd y canlyniadau'n siomedig i Blaid Cymru ar y cyfan, colli seddi ac aelodau amlwg.

Er mae'n debyg mai 150 o bleidleisiau oedd rhwng ennill 14 ac 11 sedd, mae'r ffaith iddyn nhw golli pedair sedd a syrthio i 11 sedd yn y Cynulliad newydd, dair yn llai na'r Ceidwadwyr, yn golygu bod y noson yn un wael.

Daeth yr ergyd gyntaf wrth i Helen Mary Jones golli etholaeth Llanelli.

Fore Gwener daeth y newyddion fod y Ceidwadwyr wedi ennill sedd Aberconwy oddi wrth Blaid Cymru - sedd yr oedd Gareth Jones wedi ei hennill yn gyfforddus yn 2007.

Methodd Nerys Evans â chael ei hethol yn Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro a chollodd Dr Dai Lloyd ei sedd ar restr Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Bydd angen dirprwy newydd ar y blaid ar ôl i Helen Mary Jones golli Llanelli i Keith Davies o Lafur o 80 o bleidleisiau.

Yn ôl Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru, fe fyddai ei cholli'n "ergyd".

'Yn gryfach'

"Dwi'n naturiol yn siomedig," meddai Ms Jones.

"Rydym yn nofio yn erbyn y llanw ... wnaethon ni ddim digon ond fe fyddwn ni'n ôl yn gryfach.

Elin Jones
Elin Jones yn un o'r aelodau wnaeth ddal ei gafael ar ei sedd

Roedd cyn aelod Plaid Cymru, Siân Caiach, yn sefyll yno fel aelod Annibynnol oedd "yn rhoi Llanelli'n gyntaf" ac fe gafodd dros 2,000 o bleidleisiau.

Llwyddodd Rhodri Glyn Thomas i ddal ei afael ar sedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Dywedodd ar noson y cyfrif: "Rhaid i ni edrych ble y'n ni fel plaid ... a beth sydd rhaid i ni 'i wneud" i wella sefyllfa'r blaid ar ôl yr etholiad.

"Rhaid i ni benderfynu pam ydyn ni wedi methu ag apelio at y boblogaeth yng Nghymru," meddai.

Fe ddaliodd Elin Jones ei gafael ar Ceredigion gyda mwyafrif o 1,777.

Colli aelodau

Nid yn annisgwyl, llwyddodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas i gadw sedd Dwyfor Meirionnydd.

Roedd methiant Nerys Evans yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro yn siom. Hi yw cyfarwyddydd polisi'r blaid ac roedd hi'n cael ei hystyried yn un o sêr ifanc y blaid.

Roedd hi wedi penderfynu peidio ymgeisio am sedd rhanbarth Gorllewin De Cymru er mwyn ceisio cipio Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro oddi ar y Ceidwadwyr.

Dywedodd ei bod yn siomedig ond nad oedd yn difaru ymladd yr etholaeth.

Un arall na fydd yn dychwelyd i'r Cynulliad yw'r Dr Dai Lloyd.

Fe gollodd ei sedd rhanbarthol wrth i nifer seddi Plaid Cymru ar restr Gorllewin De Cymru ostwng o ddwy i un.

Bethan Jenkins fydd yn cynrychioli'r blaid yn y rhanbarth.

Y Ceidwadwyr enillodd ddwy sedd, un yn fwy nag yr oedd ganddyn nhw yn 2007.

'Uchafbwynt'

Dywedodd cyn AS y Blaid ac AC newydd Canolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Thomas, ei bod "yn noson wael i Blaid Cymru".

"Ein huchafbwynt oedd ennill y refferendwm," meddai. "Rhaid i ni ddysgu ac ailadeiladu."

Cafodd Plaid Cymru ddwy sedd yn rhanbarth Dwyrain De Cymru.

Fe fydd Jocelyn Davies yn dychwelyd i'r Cynulliad ac mae Lindsay Whittle sydd wedi sefyll sawl gwaith am etholaeth Caerffili dros Blaid Cymru wedi cael ei ethol i'r Cynulliad am y tro cyntaf.

Collodd y blaid un o'r seddi oedd ganddi ar ranbarth Canol De Cymru wrth i'r Democratiaid gipio sedd.

Fe fydd Leanne Wood yn dychwelyd fel aelod i Fae Caerdydd ond fydd Chris Franks ddim.

Yn y gogledd cafodd Ieuan Wyn Jones ei ailethol yn Ynys Môn a llwyddodd Alun Ffred Jones i ddal ei afael ar Arfon.

Bydd wyneb newydd yn cynrychioli'r blaid yn Rhanbarth y Gogledd wedi i Llŷr Huws Gruffydd yn cael ei ethol.

O'r 11 aelod fydd yn cynrychioli Plaid Cymru yn y Cynulliad, bydd tri yn gwneud hynny am y tro cyntaf - Lindsay Whittle, Llŷr Huws Gruffydd a Simon Thomas.



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific