British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Mai 2011, 18:44 GMT 19:44 UK
Ffrae am 'sylwadau camarweiniol' taflen yn Abeconwy

Bocs pleidleisio
Daw'r ddadl ddiweddaraf ddiwrnod cyn yr etholiad

Y diwrnod cyn Etholiad y Cynulliad mae ffrae'n corddi yn etholaeth Aberconwy wrth i Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol gyhuddo'r ymgeisydd Llafur o wneud "sylwadau camarweiniol" am eu hymgeiswyr.

Mae'r ddwy blaid yn gandryll am honiadau ar daflen wedi ei dosbarthu gan Eifion Wyn Williams o Lafur.

Eisoes maen nhw wedi ysgrifennu at Lafur yn mynnu eu bod nhw'n tynnu'r daflen yn ôl ac maen nhw wedi dweud eu bod yn ceisio cyngor cyfreithiol.

Mae Llafur wedi dweud eu bod wedi rhoi'r gorau i ddosbarthu'r daflen.

Dywedodd David Hagendyk, Ysgrifennydd Cyffredinol Llafur Cymru, mewn llythyr at Blaid Cymru, ei fod "wedi gorchymyn na ddylid cylchredeg y daflen rhagor wrth i ni edrych ar y mater yn fanylach".

Aberconwy yw un o seddi allweddol yr etholiad ddydd Iau. Enillodd Plaid Cymru'r sedd yn etholiad 2007 ond mae sylwebwyr wedi proffwydo y gallai'r Ceidwadwyr neu Lafur ennill.

Dim sail

Mae'r daflen yn honni bod Iwan Huws, ymgeisydd Plaid Cymru, wedi symud prif swyddfa'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol o Landudno i Gaerdydd pan oedd yn gyfarwyddwr y sefydliad, a bod y brif swyddfa wedi ei symud yn ôl i Landudno ar ôl iddo adael y swydd.

Does dim sail i hynny, yn ôl Plaid Cymru sy'n dweud i Mr Huws gael ei benodi i swydd yng Nghaerdydd yn 2003 ac iddo symud i weithio yn Llandudno yn 2006.

Gydol yr amser, medden nhw, roedd y brif swyddfa yn Llandudno ac nid oedd y sefyllfa erioed wedi bod yn wahanol.

"Dyma ni eto - Llafur yn lledaenu mwy o gelwyddau," meddai Elfyn Llwyd AS, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

"Mae'n amlwg nad ydyn nhw wedi dysgu gwersi o brofiad chwerw etholaeth Oldham yn etholiad llynedd lle collodd eu hymgeisydd nhw ei sedd yn ddi-seremoni gyda chefnogaeth y llys.

"Does dim lle i gelwyddau yn y broses ddemocrataidd."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cwyno bod honiadau'r daflen am Mike Priestley yn terfynu cytundeb cwmni a cholli swyddi lleol yn gwbl anghywir.

Cynnig gwell

Roedd Mr Priestley yn gynghorydd pan ymgeisiodd cwmnïau am y cytundeb ac fe gollodd y cwmni dan sylw'r cytundeb am i gwmni arall wneud cynnig gwell.

"Mae'r celwyddau yma gan Lafur yn warthus," meddai Christine Humphries, asiant Mr Priestley wrth gadarnhau bod y Democratiaid Rhydfrydol hefyd wedi cymryd cyngor cyfreithiol.

"Rydym ni wedi dosbarthu llythyr i'r ymgeisydd Llafur a'i asiant oherwydd y datganiadau cwbl anwir am yr ymgeisydd Democratiadd Ryddfrydol.

"Rydym ni wedi gofyn iddyn nhw beidio â dosbarthu'r ohebiaeth dan sylw ac fe fyddwn ni'n mynnu ymddiheuriad."

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur ei bod yn ymchwilio i'r mater.

"Rydym ni wedi derbyn gohebiaeth oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru ac fe fyddwn ni'n ymateb maes o law."



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific