Mae diffoddwyr wedi eu galw i sawl achos dros y dyddiau diwethaf
|
Dywedodd diffoddwyr tân Cymru eu bod wedi ceisio diffodd 300 o danau gwair ac eithin ers Mai 1, llawer ohonyn nhw wedi eu cynnau'n fwriadol. Treuliodd Gwasanaeth Tân De Cymru amser ddydd Llun a dydd Mawrth yn brwydro'r fflamau mewn coedwig ger Treherbert a ledodd dros 500 hectar. Yna nos Fawrth daeth adroddiadau o dân eithin ger Llechwedd yng Nghonwy lle bu'n rhaid i bedwar criw o Wasanaeth Tân Gogledd Cymru fynd yno o Langefni, Llandudno, Bae Colwyn a Chonwy. Dywedodd un swyddog tân bod adroddiadau o blant mor ifanc â saith oed a dynion yn eu 70au yn cynnau tanau'n fwriadol. Cafodd Gwasanaeth Tân y Gogledd eu galw i ddelio â thân gwair ym Mron Heulog er Llechwedd, Conwy am 8.32am ddydd Mercher, ac am 10.30am cafodd pedwar criw o Borthmadog, Blaenau Ffestiniog, Caernarfon a Phwhelli eu galw i dân eithin ym Moel y Gest ger Morfa Bychan, Porthmadog. Ac am 9am cafodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i dân gwair rhwng Trap a Brynaman, ar dir y parc cenedlaethol, ac am 1.51pm cafodd criw o Aberystwyth eu galw i dân gwair yn Ffordd Stanley. Erlyn Dywedodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, sydd wedi delio gyda 111 o ddigwyddiadau, y bydden nhw'n ceisio erlyn y rhai sy'n gyfrifol.
Cafodd Gwasanaeth Tân y Gogledd eu galw i 16 o danau mawrion, gan gynnwys un anferth ger Pwllheli yng Ngwynedd. Dywed Gwasanaeth Tân y De eu bod wedi delio gyda dros 150 o danau ers Mai 1, gan gynnwys un fu'n llosgi am dros 24 awr. Bu criwiau o Dreorci, Ferndale, Aberdâr a Thonypandy yn brwydro'r fflamau yn Nhreherbert - fe gawson nhw'u galw yno nos Lun ac eto ddydd Mawrth. Gwyntoedd Dywedodd un swyddog yn yr orsaf dân, Dave Ansell: "Mae dros 95% o'r tanau yma wedi eu cynnau'n fwriadol. "Y broblem dros y penwythnos yw'r tywydd sych iawn ac un o'r misoedd Ebrill mwyaf cynnes erioed. "Mae popeth yn sych grimp, ac mae'r gwyntoedd cryfion dros y dyddiau diwethaf wedi gwneud pethau'n anodd dros ben." Ychwanegodd ei fod wedi clywed adroddiadau am blant mor ifanc â saith oed a dynion yn eu 70au yn cynnau tanau. "Mae rhai o'r criwiau yn gweithio 24 i 48 awr gydag ychydig iawn o orffwys. "Mae'n mynd ag adnoddau achub bywyd i ffwrdd o'r llefydd ble mae eu hangen." Rhybudd Yn y gogledd, bu wyth o griwiau yn brwydro'r fflamau yn Llangybi ger Pwllheli, yn ogystal â'r tân ddechreuodd yng Nghonwy nos Fawrth. Dywedodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod yn mynd i weithio agos gyda'r heddlu er mwyn erlyn y rhai fu'n cynnau tanau'n fwriadol. Dywedodd pennaeth sir Abertawe gyda'r gwasanaeth, Gary Williams: "Rydym yn rhybuddio'r cyhoedd fod cynnau tanau'n fwriadol yn drosedd ddifrifol iawn, ynghyd â bod yn hynod beryglus hefyd."
|