British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Mai 2011, 06:38 GMT 07:38 UK
Streic staff y Comisiwn Cydraddoldeb

Undeb PCS
Fe fydd streic awr ddydd Mercher yma a dydd Mercher nesaf

Bydd aelodau o undeb y PCS sy'n gweithio yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnal cyfres o streiciau awr fel rhan o anghydfod am doriadau.

Fe fydd llinellau piced ym mhrif ganolfannau'r Comisiwn yng Nghaerdydd, Birmingham, Glasgow, Llundain a Manceinion.

Dros y 12 mis nesa, mae'r Comisiwn am gwtogi dros hanner y staff o 460 i 200, gyda llawer o'r rhai fydd ar ôl yn cael eu rhoi ar gytundebau byr.

Mae'r cyfan yn dilyn toriadau o 68% i gyllideb y Comisiwn.

Bydd cyllideb y Comisiwn yn disgyn o £70 miliwn pan gafodd ei ffurfio yn 2007 i £22.5 miliwn erbyn 2015.

Cau swyddfeydd

Bydd undeb y PCS yn cynnal streic rhwng 11am a hanner dydd ddydd Mercher, gyda streic arall debyg yn digwydd ddydd Mercher nesa', Mai 11.

Mae'r llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn diddymu'r arian ar gyfer llinell gymorth a rhaglen grantiau'r Comisiwn, ac mae'r Comisiwn wedyn wedi cyhoeddi cynlluniau i gau swyddfeydd rhanbarthol.

Dywed yr undeb fod staff yn swyddfa Nottingham wedi cael gorchymyn i glirio'u desgiau er nad yw'r cyfnod ymgynghori ar ddyfodol y Comisiwn yn dod i ben tan Fehefin 15.

'Ymroddgar'

Trevor Phillips
Cadeirydd y Comisiwn yw Trevor Phillips

Mae'r undeb wedi galw ar gadeirydd y Comisiwn, Trevor Phillips, i ddatgelu ei gynlluniau ar gyfer dyfodol y sefydliad, gan ei herio i ddweud yn union beth fydd prif swyddogaethau'r Comisiwn - y swyddogaethau y mae Mr Phillips wedi addo'u hamddiffyn.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y PCS, Mark Serwotka: "Mae'r rhain yn staff ymroddgar sy'n arbenigwyr yn eu meysydd, ac mae'r streic yma'n dangos eu penderfyniad i gadw gwasanaethau o safon uchel i'r cyhoedd."

Pleidleisiodd 77% o'r rhai bleidleisiodd o blaid streicio, gyda 48% o'r aelodau yn dewis bwrw'u pleidlais.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific