British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Mai 2011, 10:57 GMT 11:57 UK
Dyrchafiad i Fae Colwyn

Bae Colwyn

Mae Clwb Pêl-droed Bae Colwyn wedi llwyddo i ennill dyrchafiad i Adran y Gogledd o Gynghrair Blue Square Bet ar ôl buddugoliaeth yn rownd derfynol gemau ail gyfle Uwchgynghrair Evo-Stik.

Un gôl oedd yn ddigon i'r tîm yn erbyn FC United of Manchester.

Jon Newby sgoriodd unig gôl y gêm ar ôl 69 munud.

Roedd cyn chwaraewr Lerpwl wedi cael anaf yn y gêm gyn-derfynol, yr wythnos diwethaf ac roedd 'na bryder na fyddai'n chwarae.

Mewn tymor hynod o lwyddiannus i glybiau Cymru, mae Merthyr Tudful eisoes wedi ennill dyrchafiad o adran gyntaf Cynghrair y Gorllewin.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific