British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Mai 2011, 12:11 GMT 13:11 UK
Ehangu cyfnod ymgynghori cynllun peilonau Powys

Poster yn gwrthwynebu'r cynllun
Mae gwrthwynebwyr yn honni y byddai'r peilonau yn difetha'r tirlun

Fe fydd pobl ym Mhowys yn cael mwy o amser i ddweud eu dweud am gynllun dadleuol i adeiladu peilonau yn y canolbarth.

Mae Scottish Power yn bwriadu cysylltu trydan o leiaf 10 fferm wynt â'r Grid Cenedlaethol trwy is-orsaf a rhwydwaith o beilonau yn ymestyn dros bellter o 26 milltir yn Sir Drefaldwyn.

Dywedodd y cwmni byddai'r cyfnod ymgynghori yn cael ei ymestyn chwe wythnos, tan Fehefin 20.

Mae'r cynlluniau i adeiladu'r is-orsaf a'r peilonau, sy'n 154 troedfedd, wedi'u beirniadu gan garfan o bobl leol.

Mynychodd cannoedd o bobl gyfarfod cyhoeddus yn y Trallwng ar Ebrill 20.

Mae gwrthwynebwyr i'r cynllun yn honni y byddai'r peilonau a'r tyrbinau yn difetha'r tirlun.

Maen nhw hefyd yn honni y bydd nifer o'r tyrbinau yn cynhyrchu llai na 25 y cant o'u gallu arferol.

Ond mae'r rheiny sy'n cefnogi'r cynllun yn mynnu bod y ffermydd gwynt yn effeithiol ac yn ddibynadwy.

Byddai'r isorsaf, ar safle 19 erw, naill ai yn Abermiwl ger Y Drenewydd neu yng Nghefn Coch ger Llanfair Caereinion.

Mae'r Grid Cenedlaethol, hefyd, yn cynnal cyfarfodydd ymgynghorol.



Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific