British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Mai 2011, 10:36 GMT 11:36 UK
Staff Toyota yn dychwelyd i'w gwaith

Ffatro Toyota Glannau Dyfrdwy
Ni fydd y 445 aelod o staff yn gweithio ar ddydd Gwener am y tro

Mae staff cwmni Toyota yn Sir y Fflint wedi dychwelyd i'w gwaith ar ôl i'r ffatri fod ar gau rhwng Y Pasg a phenwythnos Gŵyl Banc mis Mai.

Cynhaliodd y cwmni nifer o gyrsiau hyfforddiant yn ystod y dyddiau nad oedden nhw'n cynhyrchu ceir yn sgil prinder cydrannau ar gyfer y ceir.

Achoswyd y prinder rhannau gan y ddaeargryn a'r tsunami a darodd Japan ym mis Mawrth.

Disgwylir i waith cynhyrchu yn y ffatri barhau ond fe fydd yn is na'r arferol oherwydd y prinder rhannau.

Bydd Toyota yn cynnal mwy o ddyddiau hyfforddiant yn ystod mis Mai ac ni fydd y 445 aelod o staff yn gweithio ar ddydd Gwener am y tro er y byddan nhw'n cael cyflog.

Yn sgil trefniant a gytunwyd gan y cwmni a swyddogion undebau, disgwylir i'r gweithwyr "adennill eu horiau gwaith cyn gynted ag y bydd y problemau cyflenwad a galw wedi'u datrys".

Gobeithir y bydd patrwm gwaith arferol y ffatri yn cael ei adfer erbyn diwedd mis Mai.



HEFYD
Toyota: Gwaith ar stop
13 Ebr 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific