British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Mai 2011, 14:51 GMT 15:51 UK
AS Llafur yn symud arwyddion Plaid Cymru

Un o arwyddion Plaid Cymru o 2007
Mae Llafur yn cydnabod iddyn nhw symud arwyddion o erddi yng Nghaerffili

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i honiadau bod yr Aelod Seneddol Llafur Wayne David wedi bod yn symud arwyddion Plaid Cymru o erddi yng Nghaerffili.

Yn ôl Ron Davies, ymgeisydd y blaid yn yr etholaeth, mae AS Caerffili wedi symud nifer o'i arwyddion o erddi yn groes i ddymuniadau'r trigolion.

Dywedodd Heddlu Gwent wrth BBC Cymru eu bod yn ymchwilio i "anghysonderau etholiadol yn ardal Caerffili" ond y byddai'n "anaddas i wneud sylw pellach ar hyn o bryd".

Mae Llafur yn gwadu unrhyw gamwedd ar ran Mr David ac yn mynnu bod perchnogion y gerddi dan sylw yn ddig bod y posteri yn eu gerddi.

Dydyn nhw ddim yn gwadu cymryd yr arwyddion.

Sedd darged

Un o seddi targed Plaid Cymru yw Caerffili ac mae'r cyn Ysgrifennydd Gwladol Llafur, Ron Davies yn gobeithio disodli Jeff Cuthbert o'r Blaid Lafur, gafodd ei ethol gyntaf fel AC yn yr etholaeth yn 2003.

Wayne David AS
Wayne David yw gweinidog yr wrthblaid dros Ewrop

Mae aelodau lleol o Blaid Cymru yn mynnu eu bod wedi gweld arwyddion y blaid yng nghefn car Mr David.

Maen nhw'n dweud bod o leiaf 50 o arwyddion wedi diflannu.

"Rhaid cael ymchwiliad heddlu trylwyr," meddai Mr Davies.

"Alla i ddim â chredu bod Aelod Seneddol yn gallu ymddwyn fel hyn, yn enwedig ar ôl sgandal treuliau San Steffan.

"Mae ganddo ni dri thyst gwahanol all ddweud wrthyn nhw ei weld e gyda phosteri Plaid Cymru ac rydym ni wedi colli tua 50 yn ardal Caerffili ers dechrau'r ymgyrch etholiadol.

"Rwy'n gwybod bod Llafur yn colli gobaith ond mae defnyddio triciau brwnt fel hyn yn annerbyniol, yn enwedig gan AS."

Gwadu camwedd

Gan ddisgrifio honiadau Plaid Cymru fel rhai "hysterig" dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur: "Mae nifer o bobl hynod ddig wedi cysylltu â phlaid Lafur Caerffili am antics posteri anghyfreithlon Plaid Cymru ar draws yr etholaeth.

"Ar gais trigolion candryll, symudodd ymgyrchwyr Llafur bosteri Plaid Cymru fel tystiolaeth i'r heddlu o weithredu anghyfreithlon Plaid.

"Mae'r llifeiriant diweddar o dactegau brwnt yn dod ar ddiwedd wythnosau hir lle mae Plaid Cymru wedi bod yn rhoi posteri ar eiddo cyhoeddus pan na ddylen nhw.

"Rydyn ni wedi dweud wrth yr awdurdodau perthnasol am hyn."



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific