Cafwyd hyd i waed ar bar o drywsus byr Cooper
|
Roedd llofruddiaethau dwbl Sir Benfro wedi profi'n ddirgelwch i Heddlu Dyfed Powys ers yr 1980au. Yn 2006 galwyd am wasanaeth adran arbennig o'r heddlu oedd yn adolygu hen achosion - Ymgyrch Ottowa. Yr hyn lwyddodd i ddatgloi'r dirgelwch yn y diwedd oedd y datblygiadau yn nhystiolaeth DNA. Roedd gwaed yn cysylltu John Cooper gyda llofruddiaethau'r Dixons wedi ei ddarganfod ar bar o drowsus a gwn. Hefyd roedd ffibrau maneg y cafwyd hyd iddi yng ngardd Cooper yn debyg i ffibrau ar ddail a thyfiant a ddefnyddiwyd i geisio cuddio cyrff Peter a Gwenda Dixon. Tystiolaeth Yr allwedd i ddatrys y dirgelwch oedd lladrad arfog yn Sardis, pentre gwledig yn ne Sir Benfro. Roedd y lleidr wedi ymosod ar fenyw ond llwyddodd hi i wasgu botwm panig, gan achosi i'r lleidr ffoi.
Roedd gwaed ar y gwn yn cyfateb i proffil DNA John Dixon
|
Yn ystod ymchwiliad yr heddlu cafwyd hyd i wn. Cafodd y gwn hwnnw ei gysylltu gyda John Cooper ac fe'i carcharwyd am 16 mlynedd yn 1998. Roedd Cooper wedi ei gysylltu â nifer o droseddau eraill, ac fe ddaeth yn brif ffocws i Ymchwiliad Ottowa tra yn y carchar. Yn ystod yr achos llys datgelwyd fod gwaed ar bar o drowsus byr yng nghartref Cooper yn cyfateb i broffil DNA John Dixon. Yn ôl arbenigwr roedd y posibilrwydd nad gwaed John Dixon oedd ar y trowsus yn un mewn biliwn. Roedd tystiolaeth debyg yn cysylltu gwaed John Dixon a'r dryll y cafwyd hyd iddo yn dilyn lladrad Sardis. Hefyd cafwyd hyd i ffibrau bychain o un o sanau Richard Thomas, gafodd ei lofruddio yn 1985, ym mhoced y trowsus byr. LGC Forensics oedd yn adolygu'r dystiolaeth fforensig wrth i'r heddlu ail-adolygu achosion y Dixons (1989), llofruddiaethau Richard a Helen Thomas (1985) ac achos o dreisio yn 1996. Roedd LGC Forensics eisoes ag enw da wrth gynnal arolwg o hen achosion - gan gynnwys datrys llofruddiaethau Damilola Taylor a Rchael Nickell. Cafodd dros 600 o eitemau eu harchwilio gan y tîm wrth ail-ymchwilio'r troseddau Sir Benfro. Un sydd â chof clir o'r llofruddiaethau yw Ionwy Thorne. Roedd hi a'i gŵr George yn ffermio gerllaw Parc Scoveston, cartref Helen a Richard Thomas. Oriau cyn y llofruddiaethau ac i'r ffermdy gael ei roi ar dan roedd George Thorne wedi siarad â Helen Thomas ar y ffôn ar Ragfyr 22, 1985. Tân "O ni newydd briodi ym Mis Awst ac wedi bod yn byw yn yr ardal rhyw bum mis pan ddigwyddodd y peth, roedd e'n amser ofnadw, r'odd pawb yn ofn," meddai Mrs Thorne. "R'odd George mas ar y fferm ac o ni yn y tŷ a dyna ffon yn canu a rhywun yn dweud fod yna dân ofnadwy yn Scoveston a bo' pethau ddim yn edrych yn rhy dda.
Cafwyd hyd i ffibrau o hosan Richard Thomas ym mhoced trowys byr Cooper
|
"Ond o ni ddim yn gwybod am rai dyddiau beth yn gwmws o'dd wedi digwydd. "Ond ar ôl hynny roedd pawb ofn mynd mas. Dwi'n cofio cloi lan pob drws tŷ trwy'r dydd, oedd ofn i chi fynd unrhyw fan heb gloi'r drysau. "Lle bynnag o chi'n mynd roedd yr heddlu yna, roedd yr heddlu ymhobman. "Oedd pawb yn synnu ac yn rhyfeddu oherwydd doedd y ddau heb wneud ddim byd i neb. "Ma pawb eisiau gweld y cyfan yn dod i ben, a rwy'n gobeithio nawr bydd y cyfan yn cael ei gloi gyda'r achos hwn."
|