Cafodd y brawd a'r chwaer Richard a Helen Thomas eu lladd ym Mharc Scoveston
"Hwn yw un o'r troseddwyr mwyaf peryglus mae'r wlad wedi ei weld".
Dyna ddisgrifiad cyn-Brif Uwcharolygydd gyda Heddlu Dyfed Powys o John Cooper.
John Daniels oedd yn arwain Ymchwiliad Huntsman - ymchwiliad a welodd Cooper yn cael ei garcharu yn 1998 am ladrad arfog yn Sardis, de Penfro a nifer o achosion eraill o ladrata.
Ond er iddo gael ei garcharu am y lladrad yn Sardis roedd yn rhaid aros 13 mlynedd arall cyn ei gael yn euog o lofruddiaethau dwbl Sir Benfro a nifer o droseddau difrifol eraill gan gynnwys treisio merch yn ei harddegau.
Troseddwr perysglus
Roedd John Cooper, sy nawr yn 66 oed, yn ennill ei fywoliaeth wrth weithio ar ffermydd ac yn gwneud gwaith llafur yn Sir Benfro.
Ond roedd o hefyd yn droseddwr milain a lwyddodd i gelu ei droseddau mwyaf difrifol am dros chwarter canrif.
Cafodd ei arestio yn 2010 tra'n byw yn Nhreletert, ger Abergwaun.
Ond cyn hynny bu o a'i deulu yn byw yn ardal Jordanston a Rosemarket ger Aberdaugleddau.
Llewygu
Roedd hynny ychydig filltiroedd o ffermdy Richard a Helen Thomas ym Mharc Scoveston lle bu'n gweithio am gyfnod.
Cafodd y brawd a'r chwaer eu llofruddio ganddo yn 1985.
Cafodd cyrff Peter a Gwenda Dixon o Sir Rydychen eu canfod ar lwybr ger yr Aber Bach
Yn ôl Alun Lenny, gohebydd BBC Cymru yn y gorllewin adeg y llofruddiaethau, roedd yr ardal wedi ei syfrdanu a'u brawychu.
Roedd disgrifiadau cwest o'r hyn ddigwyddodd i Ms Thomas, 54 oed, wedi peri i un aelod o'r rheithgor lewygu, meddai Mr Lenny
Cafodd Ms Thomas ei chlymu cyn cael ei saethu yn ei phen. Pan ddychwelodd ei brawd i'r tŷ, cafodd o hefyd ei saethu ac yna rhoddwyd y ffermdy ar dân.
Bedwar mlynedd yn ddiweddarach fe darodd y llofrudd eto.
Cafodd Gwenda a John Dixon eu llofruddio ar lwybr arfordir Penfro ger Aber Bach ar ddiwrnod ola eu gwyliau yn 1989.
Roedd Mr Dixon wedi ei glymu cyn ei saethau gyda gwn dau faril , ac roedd tystiolaeth fod y llofrudd wedi ymosod yn rhywiol ar Mrs Dixon cyn ei saethu.
Ar ôl dwyn cerdyn banc oddi ar Mr Dixon, oedd ar ei wyliau yn Sir Benfro o Sir Rhydychen, fe ddefnyddiodd Cooper y cerdyn ar yr un niwrnod yn nhre Penfro.
Lleidr a llofrudd didregaredd
Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach cafod y cerdyn ei ddefnyddio yn Hwlffordd a Chaerfyrddin.
Oherwydd gwybodaeth gan bobl y tu allan i'r banciau hynny, fe grëwyd darlun gan artist o'r dyn, oedd ar gefn beic.
Roedd yr heddlu hefyd yn gwybod fod y llofrudd wedi dwyn modrwy briodas oddi ar fys Mr Dixon.
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Abertawe cafwyd tystiolaeth fod Cooper wedi gwerthu modrwy am £25 i siop emau ym Mhenfro wedi'r llofruddiaethau.
Digwyddodd yr ymosodiad didrugaredd ar y par canol oed ganol dydd ar ddiwrnod o haf.
"Roedd hi'n stori syfrdanol - cafodd y par eu lladd mewn modd mor ffiaidd mewn sir lle'r oedd brawd a chwaer wedi cael eu lladd ychydig flynyddoedd yn gynharach," meddai Mr Lenny.
Dywedodd Andrew Cooper fod ei dad yn ddyn cryf iawn ac yn ddyn ymosodol.
Ymosodiad
"Roedd yn arfer ganddo i fynd am dro hir gyda gwn dau faril.
"Roedd yn gwisgo ei got o amgylch y gwn, ac roedd y gwn ar ddarn o gortyn o amgylch ei wddw," meddai wrth roi tystiolaeth yn erbyn ei dad."
Hwn oedd un o ymchwiliadau mwyaf Heddlu Dyfed Powys
Yn 1996 ymosododd Cooper ar ddwy ferch a thri bachgen mewn cae yn ardal Aberdaugleddau.
Cafodd un o'r merched ei threisio, fe ymosodwyd yn rhywiol ar y ferch arall, ac fe fu 'na ymgais i ladrata oddi ar y pump ohonyn nhw. Roedd gwn dau faril gan yr ymosodwr.
Bu'n rhaid aros tan ladrad arfog ym mhentre Sardis yn 1998, cyn i'r rhwyd ddechrau cau am Cooper.
Roedd y lladrad wedi codi braw yn lleol, cafodd y wraig ei chlymu a'i churo'n ddrwg gyda'r gwn dau faril.
Dywedodd fod Cooper, a oedd yn gwisgo mwgwd, wedi bygwth ei lladd.
Sefydlodd yr heddlu ymchwiliad arbennig - Ymchwiliad Huntsman.
Y dystiolaeth gafodd ei gasglu yn ystod yr ymchwiliad oedd yn gyfrifol am gysylltu enw Cooper gyda'r llofruddiaethau dwbl, ac yn y pendraw ei garcharu am y troseddau hynny.
"Pan ddaeth yr heddlu o hyd i eitemau yn ardal Scoveston - roedd yr heddlu yn meddwl fod yna gysylltiad cryf gyda Cooper ond pryd hynny roedd hi'n anodd iawn profi pethau oherwydd yr adeg hynny doedd y wybodaeth fforensig sydd ar gael i gael nawr," meddai Mr Daniels.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.