British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 3 Mai 2011, 06:37 GMT 07:37 UK
Dadl deledu rhwng arweinwyr y pleidiau

Betsan Powys (dde) gydag arweinwyr y pleidiau yng Nghasnewydd
Roedd safonau ysgolion a thoriadau mewn gwariant cyhoeddus ymhlith y pynciau trafod

Mae arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru wedi gwrthdaro mewn dadl deledu, ddyddiau cyn etholiad y Cynulliad.

Roedd arweinwyr Cymreig Llafur, y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn dadlau ynglŷn â chyflwr ysgolion, toriadau mewn gwariant cyhoeddus a chadw at eu haddewidion.

Y ddadl ar BBC 1 Cymru nos Lun o Gasnewydd oedd un o'r cyfleoedd ola' i'r arweinwyr geisio perswadio pleidleiswyr cyn yr etholiad ddydd Iau.

Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi bod mewn clymblaid yn llywodraeth y cynulliad ers yr etholiad diwetha' bedair blynedd yn ôl, ond bu arweinwyr y ddwy blaid yn dadlau ar y rhaglen, a gyflwynwyd gan olygydd gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys.

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, gyhuddo'r Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, Carwyn Jones, o fod yn "drahaus" wrth ystyried y gallai ei blaid "gymryd Cymru'n ganiataol".

Y gynulleidfa yng Nghampws Dinas Casnewydd
Aelodau'r gynulleidfa yn gwrando ar y ddadl yng Nghampws Dinas Casnewydd

Ond dywedodd Carwyn Jones ei fod wedi'i synnu gyda'r cyhuddiad, a dywedodd nad oedd unrhyw beth yn "drahaus" am anelu at ennill yr etholiad.

Roedd arweinwyr Llafur a Phlaid hefyd yn dadlau ynglŷn ag addysg, fu'n bwnc trafod amlwg yn ystod rhan gynta'r ddadl, a oedd yn cael ei gynnal yng Nghampws Dinas Casnewydd, Coleg Gwent.

'Safonau gwarthus'

Mewn ymateb i gwestiwn gan gyn brifathro, a ddywedodd fod safonau mewn ysgolion yn "warthus", dywedodd Carwyn Jones nad oedd yn derbyn y disgrifiad hwnnw ar gyfer pob ysgol.

Fe gynigiodd enghreifftiau o lwyddiannau yng Nghymru fel y cyfnod sylfaenol, sy'n rhoi cyfle i blant o dan saith oed ddysgu drwy chwarae, a dywedodd y byddai'n rhaid i'r 30% o ysgolion sydd ddim yn cyrraedd y safon wneud gwelliannau.

Yn ôl Ieuan Wyn Jones, roedd yn "warth" fod 13,500 o ddisgyblion 11 oed fydd yn mynd i'r ysgol uwchradd eleni yn "ymarferol anllythrennog".

Dywedodd arweinydd Plaid fod angen trawsnewid addysg yng Nghymru, ac er bod ei blaid wedi bod yn rhan o'r llywodraeth dros y pedair blynedd diwetha', dywedodd na fyddai'n "amddiffyn yr hyn na ellir ei amddiffyn".

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, fod canlyniadau ysgolion Cymru yn "ofnadwy", a'u bod eisiau mwy o reolaeth o'u cyllid - rhywbeth y mae ei blaid o yn ei addo.

Arweinwyr y pleidiau
Kirsty Williams, Carwyn Jones a Nick Bourne yn gwrando ar sylw gan Ieuan Wyn Jones

Fe wnaeth Mr Bourne gyhuddo Carwyn Jones o fod yn "llawer rhy hunanfodlon" ynglŷn ag ysgolion.

Gofynnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, i Ieuan Wyn Jones ai'r rheswm pam nad oedd wedi mynd i'r afael â chyflwr addysg yn ystod ei gyfnod mewn llywodraeth oedd "am nad oedd Carwyn yn gadael iddo".

Dywedodd fod y bwlch mewn gwariant ar ddisgyblion yng Nghymru a Lloegr wedi tyfu i dros £600, a dywedodd fod ei phlaid yn addo cau'r bwlch hwnnw.

Gwariant cyhoeddus

Yn ogystal fe ofynnwyd i bob un o'r arweinwyr ym mha faes o wariant cyhoeddus y bydden nhw yn gwneud toriadau.

Fe wnaeth Mr Bourne gynnwys "rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd sydd ar gyflogau uchel ond yn gwneud dim", atal codiadau cyflog o fewn y gwasanaeth sifil, a thorri ar orwario ar brosiectau cyhoeddus megis ffyrdd.

Roedd Ieuan Wyn Jones yn ffafrio lleihau cyflogau gweinidogion cabinet llywodraeth y cynulliad, ail-fuddsoddi arbedion gwerth £150 miliwn yng nghyllid addysg mewn ysgolion, a chwtogi ar reolwyr o fewn y Gwasanaeth Iechyd.

Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, byddai'n dod â'r cymhorthdal £8 miliwn ar gyfer teithiau awyr rhwng gogledd a de Cymru i ben, yn lleihau'r swm o brosesu grantiau Cynulliad, ac yn cyhoeddi pob un penderfyniad gwariant llywodraeth y Cynulliad fyddai dros £25,000.

Yn y cyfamser, dywedodd Carwyn Jones fod nifer y staff o fewn y gwasanaeth sifil wedi gostwng 800 dros y flwyddyn ddiwetha', ac ychwanegodd fod Llafur yn addo amddiffyn ysgolion, sgiliau ac ysbytai.

Addewidion

Gofynnwyd hefyd iddynt sut y bydden nhw'n cadw at addewidion eu maniffestos, o ystyried y gallan nhw orfod clymbleidio wedi'r etholiad.

Dywedodd Carwyn Jones nad oedd yn bod yn hunanfodlon ac nad oedd un cymryd unrhyw beth yn ganiataol, ond mai'r blaid Lafur oedd yr unig blaid a oedd yn edrych i ennill yr etholiad yn llwyr ddydd Iau.

Fe arweiniodd hynny at Ieuan Wyn Jones yn ei gyhuddo o gymryd Cymru yn ganiataol, a dywedodd fod Plaid wedi gweithredu ar 230 allan o 237 o'u haddewidion maniffesto ers 2007.

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, allai o ddim rhagdybio'r canlyniad, a gofynnodd i'r etholwyr asesu ei blaid ar ei maniffesto manwl.

Dywedodd Kirsty Williams fod y costau ym maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi eu "gweithio allan yn fanwl" a'i bod wedi profi mewn trafodaethau ei bod yn gallu "dadlau dros ei hachos".



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific