British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 30 Ebrill 2011, 16:54 GMT 17:54 UK
Un gl yn sicrhau buddugoliaeth i Fangor

Chwaraewyr Bangor
Chwaraewyr Bangor yn codi tlws Pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru

Bangor yw pencampwyr Uwch Gynghrair Pêl-Droed Cymru.

Roedd buddugoliaeth o gôl i ddim yn erbyn Y Seintiau Newydd ar Ffordd Farrar yn ddigon i'w coroni ar ddiwrnod olaf y tymor.

Un pwynt oedd rhwng y ddau dîm ar ddechrau'r gêm ac fe fyddai gêm gyfartal wedi sicrhau'r bencampwriaeth am y chweched tro i'r Seintiau.

Dyma'r trydydd tro i Fangor gael eu coroni yn bencampwyr yn hanes y gynghrair a'r tro cyntaf mewn 16 mlynedd.

Craig Garside gafodd unig gôl y gêm a chipio'r teitl o afael Y Seintiau.

Cafodd y ddau dîm gyfloed yn yr hanner cyntaf ond roedd rhaid aros tan y 68fed munud tan y gôl.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu y gall Bangor wneud y dwbl eleni ac ennill Cwpan Cymru.

Dydi'r tîm erioed wedi gwneud y dwbl.

Fe fydd rownd derfynol Cwpan Cymru rhwng Bangor a Llanelli ddydd Sul nesaf am 2.30pm ym Mharc y Scarlets, Llanelli.

Hwlffordd yw'r unig dîm i ddisgyn o'r gynghrair ar ddiwedd y tymor.

Mae'r Bala yn aros yno wedi i Gei Conna fethu cael trwydded iddyn nhw fod yn yr Uwch Gynhrair y tymor nesa'.

Canlyniadau:-

Aberystwyth 1-0 Caerfyrddin

Airbus UK Brychdyn 0-3 Y Drenewydd

Bala 1-0 Hwlffordd

Bangor 1-0 Y Seintiau Newydd

Castell-nedd 1-1 Prestatyn

Llanelli 2-3 Port Talbot

UWCHGYNGHRAIR CYMRU
Tîm

1. BANGOR

2. Y Seintiau Newydd

3. Castell-nedd

4. Llanelli

5. Prestatyn

6. Port Talbot

7. Aberystwyth

8. Airbus

9. Y Drenewydd

10. Caerfyrddin

11. Y Bala

12. Hwlffordd

Chwarae

32

32

32

32

32

32

32

32

32

32

32

32

Pwyntiau

70

68

58

53

40

36

42

41

35

35

33

19

Dydd Sadwrn, Ebrill 30, 2011


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific