British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 30 Ebrill 2011, 11:25 GMT 12:25 UK
Les Morrison wedi marw

Les Morrison
Roedd gan Les Morrison ei stiwdio recordio ei hun ym Methesda

Bu farw Les Morrison - aelod amlwg o'r sin roc Gymraeg.

Roedd yn ei 50au ac wedi treulio cyfnod yn yr ysbyty.

Bu farw ddydd Gwener.

Roedd ganddo ei stiwdio ei hun ym Methesda, Stiwdio Les.

Mae nifer o fandiau wedi bod yno yn recordio ac yn gweithio gyda Mr Morrison, gan gynnwys y Super Furry Animals, Cerys Matthews a The Peth.

Fe wnaeth canwr y Super Furry Animals, Gruff Rhys, gyfeirio at Mr Morrison fel "arwr addfwyn ac anturiaethwr... a gefnogodd gerddorion ei fro i'r carn."

"Mae'n anodd iawn cyfleu a chrynhoi colli Les..." meddai ar ei wefan.

'Caredigrwydd'

"Ymysg ei ddoniau roedd yn ŵr, tad, taid, awdur caneuon, cynhyrchydd, cerddor, technegydd sain, cyfarwyddwr, plastrwr, elusennwr, cymwynaswr, rhwydweithiwr o fri, catalyst i newid, pen label recordio, rheolwr stiwdio ac athro.

"Colled anferthol i'w deulu, ei gymuned ac i gymuned fyd-eang o gerddorion.

"Diolch Les. Bydd byth dy debyg ac fe gofiwn dy garedigrwydd a'th gyfeillgarwch am byth."

Roedd Mr Morrison yn amlwg iawn yn y sin gerddoriaeth ers y 70au ac yn amlwg iawn ym Methesda lle datblygodd nifer o fandiau fel Maffia Mr Huws, Celt a Jecsyn Ffeif.

Fe sefydlodd y stiwdio ar Stryd Fawr Bethesda gydag un o aelodau Maffia Mr Huws, Alan Edwards.

Ond wedi marwolaeth Mr Edwards mewn damwain car yn Llydaw yn 1987 fe wnaeth Mr Morrison barhau efo'r stiwdio.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific