British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 30 Ebrill 2011, 11:29 GMT 12:29 UK
Protest i arbed gorsaf gwylwyr y glannau

Protest blaenorol yng Nghaergybi
Bu cyfarfod cyhoeddus a rali blaenorol ar Ynys Mn i arbed yr orsaf

Roedd tua 150 o bobl mewn protest yng Nghaergybi ddydd Sadwrn yn erbyn bygythiad i gau gorsaf gwylwyr y glannau yno.

Y bwriad yw cwtogi nifer y gorsafoedd sydd yn y DU o 18 i 8 ac i "foderneiddio'r gwasanaeth".

Mae 'na fygythiad hefyd i orsaf Aberdaugleddau yn Sir Benfro.

Mae Asiantaeth Gwylwyr y Glannau am wneud arbedion o dros £210 miliwn dros 25 mlynedd.

Maen nhw'n dweud bod rhaid i'r gwasanaeth fod "yn fwy effeithiol".

Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben ar Fai 5.

'Arbed yr orsaf'

Undeb Gwylwyr y Glannau y PCS oedd wedi trefnu'r rali a gychwynnodd am 11am y tu allan i'r orsaf yng Nghaergybi.

Dywedodd cadeirydd lleol yr undeb yng Nghaergybi, Keith Roberts, eu bod yn cynnal y rali er mwyn codi ymwybyddiaeth mai dyddiau yn unig sydd ganddyn nhw i "arbed yr orsaf".

"Dim ond pum niwrnod sydd 'na cyn diwedd yr ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â dyfodol yr orsaf yma yng Nghaergybi.

"Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn dangos cefnogaeth ac yn dod i'n cefnogi."

Roedd dros 200 o bobl mewn protest blaenorol yng Nghaergybi ar Chwefror 19 a dros 130 mewn cyfarfod cyhoeddus ar yr ynys ym mis Mawrth.

Dywedodd Fred Caygill o'r Asiantaeth, y bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar Fai 5.

"Os oes gan unrhyw un sylw i'w wneud mewn ymateb mae ganddyn nhw tan hynny i wneud."

O dan gynlluniau'r Asiantaeth, fe fydd y ddwy orsaf yng Nghaergybi ac Aberdaugleddau yn cau gyda'r orsaf yn Y Mwmbwls ger Abertawe yn un o bum is-orsaf drwy'r DU a fydd yn gweithio yn ystod y dydd yn unig.

Bydd galwadau brys yn cael eu rheoli 24 awr y dydd o'r ganolfan yn Sir Hampshire.

Mae'r asiantaeth yn dweud y bydd y newidiadau yn rhoi mwy o hyblygrwydd i reoli'r galw cynyddol sydd arnyn nhw o ran pwysau gwaith.



HEFYD
Gwylwyr y Glannau: Rali arall
19 Maw 11 |  Newyddion
Croesawu mwy o gyfnod ymgynghori
13 Maw 11 |  Newyddion
Protest yn erbyn cau gorsaf
19 Chwef 11 |  Newyddion
Cau gorsafoedd Gwylwyr y Glannau
16 Rhag 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific