Arwerthwyr o Fae Colwyn sy'n gwerthu'r lluniau
Bydd pedwar darn o waith gan yr artist Syr Kyffin Williams ar werth. Mae'r pedwar llun yn cael eu gwerthu gan deulu o Ddyfnaint wedi marwolaeth eu tad. Arwerthwyr Rogers Jones Co o Fae Colwyn sy'n eu gwerthu ddydd Sadwrn. Y pedwar darn yw lluniau o Eryri. Mae'r arwerthwyr yn cynnal arwerthiant o waith Syr Kyffin bob dwy flynedd.
Caiff lluniau Syr Kyffin eu gwerthu bob dwy flynedd gan y cwmni
|
Y disgwyl yw y bydd un o'r darnau gwerthfawr yn cael ei brynu gan gasglwr lleol ac yn aros yng ngogledd Cymru. Fe wnaeth Thomas Charles Hudson, cyn gadeirydd International Computers Limited - sydd erbyn hyn yn Fujitsu, brynu'r llun "Cesarea", o oriel Thackeray Gallery yn Llundain yn 1979. Bu am gyfnod yn ei gartref yn Highgate cyn iddo symud am dros 30 mlynedd i ffermdy ar Dartmoor. Bu farw yn 2009 yn 94 oed. Mae 'na amcan bris o £27,000-35,000 ar ddarlun "Autumn Waenfawr"; £30,000-40,000 am "Drws y Coed" a £18,000-25,000 am "Twyn Capel". Yn ogystal â gwaith Syr Kyffin y mae 'na waith gan artistiaid o Gymru, Syr Frank Brangwyn, Augustus John, Donald McIntyre a Will Roberts.
Mae'r lluniau wedi bod yn Nyfnaint am rai blynyddoedd
|