British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 29 Ebrill 2011, 20:10 GMT 21:10 UK
Y Cwpl Brenhinol wedi priodi

Aled Huw yn bwrw golwg yn l dros y diwrnod mawr

Mae Kate Middleton wedi priodi'r Tywysog William yn Abaty Westminster.

Yng ngwisg wen ac ifori y cynllunydd Sarah Burton o gwmni Alexander McQueen fe deithiodd y briodferch o Westy'r Goring i'r Abaty yng nghwmni ei thad, Michael Middleton.

Cyrhaeddodd am 11am ar ôl i'r holl westeion gychwyn cyrraedd yno o 8.30am ymlaen.

Roedd y Tywysog, gafodd deitl Dug Caergrawnt, Iarll Strathearn a Barwn Carrickfergus gan Y Frenhines ddydd Gwener, eisoes wedi cyrraedd yr Abaty yng nghwmni ei frawd, Y Tywysog Harry.

Ac roedd y Tywysog William yn ei wisg sgarlad Cyrnol y Gwarchodlu Gwyddelig oedd hefyd yn cynnwys nodweddion oedd yn dangos ei fod yn beilot gyda'r Llu Awyr.

1,900

Roedd y gwasanaeth yn cael ei gynnal tua chwe mis ar ôl i'r cwpl gyhoeddi eu dyweddïad.

Archesgob Caergaint, Rowan Williams, briododd y ddau.

Y Tywysog William a Kate Middleton
Y Tywysog William a Kate Middleton

Roedd aelodau teulu Ms Middleton, fydd yn cael ei hadnabod fel Duges Caergrawnt wedi'r briodas, wedi ymuno gyda'r Teulu Brenhinol a thua 1,900 o wahoddedigion eraill.

Wedi'r seremoni, y perffomiadau cerddorol a'r darlleniadau, fe arwyddodd y ddau'r Gofrestr cyn gadael yr Abaty wrth i filoedd weiddi a chymeradwyo.

Fe adawon nhw yn y Cerbyd Brenhinol ar eu ffordd i Balas Buckingham a chydnabod y miloedd oedd yn eu gwylio.

Toc cyn 12.30pm fe gyrhaeddon nhw'r palas cyn tynnu'r lluniau swyddogol a chyfarch y dorf o'r balconi am 1.25pm.

Hofrennydd

Gadawodd y cwpl y palas tua 3.30pm yng nghar Austin Martin y Tywysog Charles oedd wedi cael ei addurno.

Wrth i'r Tywysog William yrru'r car roedd hofrennydd Sea King - y mae fel arfer yn ei hedfan dros Ogledd Cymru - yn hedfan uwch ei ben.

Fe wnaeth y cwpl ddychwelyd i Balas Buckingham ar gyfer dathliadau pellach nos Wener.

Gyda'r briodferch wedi newid ei gwisg, ffrog arall o waith Sarah Burton.

Yn y cyfamser, mae'r heddlu wedi arestio 52 o bobl y tu allan i'r ardal ddiogelwch.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific