British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 29 Ebrill 2011, 18:44 GMT 19:44 UK
Damwain ffordd: Mam wedi marw

Stephanie Curtis a'i merch Ffion Merrifield
Bu farw Stephanie Curtis a'i merch Ffion Merrifield

Mae mam 35 oed gafodd anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad rhwng dau gar rhwng Brynmawr a Gilwern ddydd Iau wedi marw.

Bu farw Stephanie Curtis o ardal Nantyglo nos Iau yn Ysbyty'r Brifysgol, Caerdydd.

Ei merch chwech oed fu farw ddydd Iau oedd Ffion Elizabeth Merrifield ac roedd y ddwy'n teithio mewn car Peugeot glas.

'Cariadus'

Mewn datganiad, dywedodd y teulu: "Roedd Stephanie yn bartner cariadus i Darren a mam ei ddau blentyn - Ffion oedd yr hynaf.

"Stephanie oedd merch hynaf Josie a Jeff, a Ffion oedd yr wyres hynaf.

"Roedd Stephanie yn fam gariadus oedd yn gweithio'n galed, yn llwyr ymroddedig i'w plant.

"Roedd Ffion yn anturus, llawn egni, yn gyfeillgar, ac roedd hi wrth ei bodd yn canu.

"Bydd colled enfawr ar ôl Stephanie a Ffion, nid yn unig yn y teulu ond yn y gymuned leol hefyd".

Damwain Brynmawr
Roedd y ddamwain am 11am fore Iau

Fe gafodd dwy yn y Mercedes lliw arian, gan gynnwys gyrrwr 69 oed o'r Gilwern, fân anafiadau ac maen nhw yn yr ysbyty o hyd.

Roedd y ddamwain ar Heol Blaenau'r Cymoedd am 11am fore Iau ac mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion.

Aed â'r pedair i Ysbyty Nevil Hall yn Y Fenni ond cofnodwyd bod y ferch fach wedi marw yn yr ysbyty.

Roedd y ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Gilwern a chylchdro Conoco am oriau.

Dylai unrhyw dystion ffonio Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Heddlu Gwent ar 01633 642404.



HEFYD
Damwain ffordd: Merch wedi marw
28 Ebr 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific