Mae Nick Bourne yn cynrychioli rhanbarth Canol a Gorllewin Cymru ers 1999.
Rhiannon Michael
BBC Cymru
|
Yn flaenllaw yn erbyn sefydlu'r Cynulliad adeg refferendwm 1997, mae Nick Bourne wedi cael tröedigaeth lwyr o ran datganoli ac mae ymgyrch eleni'n adlewyrchu hynny wrth i'w blaid dorri cwys fwy Cymreig nag o'r blaen. Bu Mr Bourne yn ymgyrchu'n frwd o blaid pwerau deddfu llawn yn yr 20 maes datganoledig yn refferendwm Mawrth 2011 a'i nod - wrth i'r arolygon barn awgrymu bod y Ceidwadwyr yn ennill tir oddi ar Plaid Cymru - yw perswadio plaid y cenedlaetholwyr i glymbleidio â nhw i atal Llafur rhag cael pedwerydd tymor mewn llywodraeth yn y Bae. Hon yw trydedd ymgyrch etholiadol Mr Bourne fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad. Mae Nick Bourne yn gyn athro yn y gyfraith, wedi ei addysgu yn Abertawe a Chaergrawnt. Bu'n gweithio i ASau Ceidwadol gan gynnwys y cyn Ysgrifennydd Cartref Kenneth Baker. Bu'n ymgeisydd aflwyddiannus yn etholaethau Chesterfield a Chaerwrangon yn ystod y 1980au a'r 90au. Cafodd ei wrthod fel arweinydd gan ei blaid cyn ymgyrch etholiadol 1999, a dewiswyd Rod Richards yn ei le - gŵr sydd bellach wedi pellhau o'r Ceidwadwyr. Llwyddiant Ond o fewn blwyddyn, gyda Rod Richards yn ymladd achos llys - achos yr oedd i'w ennill yn nes ymlaen - cymerodd Mr Bourne yr awenau. Mae wedi dal ei afael ar yr arweinyddiaeth yn hirach nag arweinydd unrhyw blaid arall yn y Cynulliad, er nad yw hynny wedi bod yn rhwydd bob amser wrth i sïon ledu o her i'w swydd ar fwy nag un achlysur. Ond - er bod amheuaeth ai Mr Bourne oedd yn gyfrifol am y llwyddiant - mae seren y Ceidwadwyr wedi bod yn esgyn ers 1999. O naw sedd yn y Cynulliad cyntaf, i 11 yn 2003 ac yna 12 yn 2007 - a dod yn wrthblaid swyddogol - mae'r Ceidwadwyr yn sicr wedi gweld cynnydd. Ond fe all trefn bleidleisio Cymru olygu dyfodol ansicr i Mr Bourne. Mae nifer aelodau rhanbarth bob plaid yn gysylltiedig â'r nifer o aelodau etholaeth sy'n cael eu dewis gan y pleidleiswyr. Felly, pe bai'r Ceidwadwyr yn ennill sedd Trefaldwyn - fel y gwnaethon nhw oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiad San Steffan - a chadw pob sedd arall yn rhanbarth Canol a Gorllewin Cymru, fe allai Mr Bourne golli ei sedd. Mae Mr Bourne yn gwbl athronyddol am y sefyllfa ac yn mynnu ei fod yn benderfynol o sicrhau cyn gymaint o gynrychiolaeth i'w blaid yn y Cynulliad nesaf ag sy'n bosibl beth bynnag fydd yr aberth iddo ef yn bersonol - mae'n mynnu nad yw'n colli cwsg am y peth.
|