Mae Carwyn Jones yn AC Pen-y-bont ers 1999.
Rhiannon Michael
BBC Cymru
|
Ychydig dros flwyddyn wedi etifeddu arweinyddiaeth Llafur oddi wrth Rhodri Morgan, gallai Carwyn Jones fod wedi rhedeg ymgyrch etholiad Cynulliad 2011 dan gysgod ei ragflaenydd. Ond gyda'r arolygon barn yn ffafriol iawn i Lafur, gyda rhai'n dweud bod cefnogwyr pleidiau eraill yn dymuno gweld Carwyn Jones fel Prif Weinidog, go brin ei fod yn poeni'n ormodol. Dyma etholiad cynulliad cyntaf Carwyn Jones ers ennill arweinyddiaeth Llafur Cymru ym mis Rhagfyr 2009. Bryd hynny, roedd ei boblogrwydd ymysg ei blaid yn rhagflas efallai o boblogrwydd ei blaid yn yr arolygon barn eleni, gyda dros 50% o dair carfan y blaid - aelodau cyffredin, aelodau etholedig, ac aelodau'r undebau - yn ei ddewis fel arweinydd. Ei obaith nawr yw ennill mwyafrif i'r Blaid Lafur ym Mae Caerdydd, camp a gyflawnwyd ond unwaith yn hanes y Cynulliad. Y nod fydd llywodraethu fel Prif Weinidog heb yr angen i ddibynnu ar glymblaid â Phlaid Cymru fel bu rhaid ers 2007, na chwaith orfod edrych at y Democratiaid Rhyddfrydol am help i lywodraethu fel yn y Cynulliad cyntaf yn 2000. Aelod Pen-y-bont Ond pwy yw Carwyn Jones? Mae'r bargyfreithiwr 44 oed wedi bod yn aelod o'r Cynulliad ers 1999, ac yn gobeithio cael ei ethol unwaith eto ym Mhen-y-bont. Mae'n briod â dau o blant, ac yn hoff o rygbi, seiclo a chwarae golff. Ei ateb bob tro wrth ofyn o ble daeth yr awch i wleidydda yw i ddweud cau'r pyllau glo yn yr 1980au. Bryd hynny ymunodd â'r blaid Lafur, ac wrth ddechrau gyrfa yn y gyfraith, daeth yn gynghorydd lleol ym Mhen-y-bont dros y blaid, cyn cael ei ethol yn Aelod Cynulliad cyntaf yr etholaeth yn 1999, sedd mae wedi ei dal dros Lafur byth ers hynny. O fewn blwyddyn, daeth Carwyn Jones yn aelod o gabinet Rhodri Morgan. Fel Gweinidog Amaeth a Materion Gwledig, cafodd fedydd tân yn 2001 wrth i glwy' traed a'r genau barlysu'r diwydiant amaethyddol. Mae wedi dweud ar sawl achlysur gymaint o her oedd y cyfnod hwnnw, a pharatoad cystal i fod yn Brif Weinidog. Un peth sydd wedi dod yn amlwg iawn yn ystod yr ymgyrch eleni yw'r ddibyniaeth ar rinweddau Carwyn Jones fel arweinydd yn strategaeth etholiad Llafur Cymru. Ei lun e sy ar glawr y maniffesto, ac mae strategwyr y Blaid yn mynnu fod ei brofiad fel Prif Weinidog dros y 18 mis diwethaf yn ei wneud e'n ffigwr atyniadol i'r cyhoedd. Dim ond wedi i'r blychau pleidleisio gau ar Fai 5 y cawn ni wybod a oedd hynny'n strategaeth effeithiol.
|