Ieuan Wyn Jones yw arweinydd Plaid Cymru ers 2000
Rhiannon Michael
BBC Cymru
|
Wrth arwain ei blaid mewn i'r trydydd etholiad Cynulliad, mae'n siwr fod Ieuan Wyn Jones yn gobeithio fod ei benderfyniad i wasanaethu dan lywodraeth Lafur, yn hytrach na ffurfio llywodraeth yr enfys yn 2007, yn ddewis cywir. Byddai rhai'n dweud i arweinydd Plaid Cymru fod yn ddewr ac yn anhunanol wrth ddewis yr addewid o refferendwm ar bwerau deddfu'r Cynulliad a bod yn Ddirprwy i Rhodri Morgan, yn hytrach na dewis bod yn Brif Weinidog mewn clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr. Yr her yn 2011 yw ymbellhau oddi wrth Lafur a dwyn perswâd ar y cyhoedd mai grym Plaid Cymru oedd y tu ôl i benderfyniadau Llywodraeth Cymru'n Un, nid o reidrwydd partner mwyaf y glymblaid, Llafur. Er bod Plaid Cymru'n dathlu cyflwyno mesur iaith a mesur tai wrth lywodraethu am y tro cyntaf, ennill y refferendwm yn sicr yw'r eisin ar y deisen i blaid sydd â'r nod craidd o annibyniaeth i Gymru. Cynrychiolydd Môn Beth felly yw hanes Ieuan Wyn Jones? Mae'n wleidydd ar lefel genedlaethol ers 1987, pan ddaeth y cyfreithiwr o Ddinbych yn Aelod Seneddol Môn, etholaeth a gynrychiolodd hyd nes iddo sefyll lawr yn 2001 er mwyn canolbwyntio ar ei waith yn y cynulliad. Yn ei amser sbâr, mae'n ymddiddori mewn hanes lleol, cerdded a chwaraeon er fel arweinydd Plaid Cymru ers 2000, mae'n debyg bod amser hamdden yn brin. Fel cyfarwyddwr ymgyrch etholiad cyntaf y Cynulliad, sicrhaodd Ieuan Wyn Jones lwyddiant i Blaid Cymru wrth i 17 cynrychiolydd o'r blaid gael eu hethol. Ond dydy'r llwyddiant hwnnw ddim eto wedi cael ei ail-adrodd ac yn 2003, wedi etholiad siomedig i Blaid Cymru ymddiswyddodd Mr Jones fel arweinydd wedi i'r nifer o ACau ostwng i 12. Serch hynny, Mr Jones oedd dewis y blaid fel arweinydd wedi i Rhodri Glyn Thomas a Helen Mary Jones wneud ymgais i'w olynu. Cafodd 15 AC Plaid Cymru eu hethol yn 2007, er i'r rhif hwnnw syrthio i 14 pan groesodd Mohammed Ashgar draw at y Ceidwadwyr - siom bersonol i'r arweinydd. Yng nghytundeb clymblaid 2007, yn ogystal â bod yn Ddirprwy Brif Weinidog, cafodd Ieuan Wyn Jones bortffolio pwysig yr economi. Wynebodd feirniadaeth achlysurol dienw gan aelodau Llafur am ei ymdriniaeth o'r economi ond mae Plaid Cymru yn brolio fod Mr Jones wedi llwyddo i ddofi gweision sifil y Llywodraeth a chyflwyno newidiadau i adran yr economi lle na lwyddodd Gweinidogion Llafur. Ei gyrhaeddiad mawr, yn ôl y rhethreg, yw cyflwyno rhaglen adfer yr economi. Tra bod Llafur yn gwadu hynny, mae Plaid Cymru hefyd yn mynnu mai llwyddiant y blaid ac Ieuan Wyn Jones oedd cyflwyno cynlluniau Pro-Act a Re-Act. Honnir bod y cynllun wedi arbed 12,000 o swyddi ers y dirwasgiad. Fe fydd Plaid Cymru'n gobeithio'n fawr mai eu credu nhw fydd yr etholwyr ar Fai 5.
|