Dros ŵyl y banc bydd nifer yn camddefnyddio alcohol
|
Honnir bod alcohol yn gyfrifol am 35% o absenoldebau o'r gwaith ac mae hyd at 14 miliwn o ddyddiau gwaith yn cael eu colli yn y DU bob blwyddyn. Gydag ail benwythnos gŵyl y banc estynedig yn syth ar ôl penwythnos gŵyl y banc Pasg, fel bod y genedl yn cael bod yn rhan o ddathliadau priodas Dug a Duges Caergrawnt, mae disgwyl y bydd nifer o weithwyr yn ffonio mewn yn sâl ddydd Mawrth wedi ei gorwneud hi. "Penwythnosau gŵyl y banc yw'r gwaetha am absenoldeb dros y dyddiau canlynol o ganlyniad i broblemau alcohol," meddai Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill. "Mae alcohol i'w weld yn rhywbeth arferol i'w yfed dros benwythnosau ac ar ŵyl y banc yn esgus arall i ddathlu. "Dydi cwmnïau ddim yn gwybod be i'w wneud na sut i ddelio gyda'r sefyllfa o absenoldeb o ganlyniad i or-yfed." Felly beth yw datrysiad y pleidiau gwleidyddol sy'n cystadlu am eich pleidlais yn etholiad y Cynulliad ar Fai 5? Creu tasglu Byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn creu tasglu i edrych ar gamddefnydd o bob mathau o gyffuriau. "Mae'n glir bod taclo dibyniaeth ar alcohol yn gynnar yn gwella'r tebygrwydd o wella ac yn arbed arian i'r gwasanaeth iechyd," meddai Veronica German, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar iechyd ac ymgeisydd yn rhanbarth De Ddwyrain Cymru. "Byddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd yn creu Tasglu Triniaeth Genedlaethol er mwyn gwneud ymchwil mewn i gamddefnydd o bob math o sylweddau." Canolbwyntio ar beth sy'n achosi salwch fyddai'r Ceidwadwyr. "Byddai Llywodraeth Geidwadol yn y Cynulliad yn creu dirprwy weinidog dros iechyd cyhoeddus gyda ffocws ar beth sy'n achosi iechyd gwael, nid y symptomau," meddai llefarydd ar ran y Ceidwadwyr. "Mae camddefnydd o alcohol yn broblem fawr yng Nghymru ac yn costio degau o filiynau o bunnau bob blwyddyn. "Ynghyd â gordewdra ac ysmygu, mae'r mater hwn ar frig ein hagenda o ran iechyd cyhoeddus." Rheoleiddio llymach Un o "brif flaenoriaethau iechyd" Llafur yw i daclo camddefnydd o alcohol, yn ôl llefarydd. "Rydym ni wedi ymrwymo i sefydlu ymgyrch iechyd blynyddol i daclo camddefnydd o alcohol ac fe fyddwn ni'n parhau i bwyso am weithredu cryfach a rheoleiddio llymach gan lywodraeth y DU o ran prisio, trwyddedu a hyrwyddo alcohol. "Fe fyddwn ni hefyd yn cyflwyno mesurau i adfer costau'r gwasanaeth iechyd yn yr unedau brys o ganlyniad i gam-ddefnyd do alcohol - a dybir i fod rhyw £70-£80 miliwn." Byddai Plaid Cymru hefyd yn cyflwyno mesurau i hybu defnydd cyfrifol o alcohol. "Mae Plaid Cymru yn cefnogi cyflwyno deddfwriaeth ar argaeledd, labelu a chost alcohol yng Nghymru," meddai llefarydd o'r blaid. "Dylai silffoedd gydag alcohol gael eu cadw i un rhan yn unig o siop, gyda rhybuddion iechyd clir. "Rydym yn parhau i gefnogi isafswm pris alcohol o 50c yr uned."
|