British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 28 Ebrill 2011, 16:35 GMT 17:35 UK
Sylwadau 'sarhaus' o dan y lach

Matt Smith
Mae'r Ceidwadwyr yn dweud bod Matt Smith wedi ymddiheuro os yw wedi tramgwyddo unrhyw un

Mae ymgeisydd Ceidwadol yn etholiad y Cynulliad wedi cael ei feirniadu am sylwadau wnaeth o ar wefan Facebook allai "dramgwyddo".

Mae ymgeisydd Canol Caerdydd, Matt Smith, wedi cael cerydd gan ei blaid wedi iddo gymharu plaid adain chwith Respect â phidoffiliaid.

Dywedodd Respect bod y sylwadau - wnaed y llynedd pan oedd yn ymgeisydd i Gyngor Tower Hamlets yn Llundain - yn "sarhaus".

Mae ymgeisydd Llafur ar Ynys Môn, Joe Lock , hefyd wedi cael ei feirniadu am sylwadau ar Facebook.

Cyfreithiwr niwed personol yw Mr Smith, sydd hefyd yn ymgynghorydd arbennig ar addysg i Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.

'Trafod y pynciau pwysig'

Wrth ymateb i sylwadau Mr Smith, dywedodd Clive Searle, ysgrifenydd cenedlaethol Respect bod y "sylwadau hyn sarhaus ac yn dramgwyddus gan ei bod yn gwneud yn fach o bidoffiliaeth.

"Dylai'n gwleidyddiaeth fod am drafod y pynciau pwysig sy'n effeithio ar gymdeithas, nid taflu baw plentynnaidd."

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr eu bod wedi nodi sylwadau Mr Smith, a wnaed cyn iddo gael ei ddewis fel ymgeisydd i'r Cynulliad.

"Mae'r sylwadau yma'n hollol annerbyniol ac mae Matt wedi gwneud yn glir ei fod yn ymddiheuro'n llawn os yw wedi tramgwyddo unrhyw un."

'Ymgeisydd amhrofiadol'

"Rydym ni wedi rhoi rhybudd i Mr Smith ynglŷn â'i ymddygiad o hyn ymlaen, ac mae wedi ei dderbyn."

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol, enillodd sedd Canol Caerdydd yn 2007: "Mae'r sylwadau'n siarad dros eu hun a does dim sylw pellach ganddom ni ar y mater ag eithrio i ddweud y bydd dewis y Ceidwadwyr o ymgeisydd di-brofiad sydd â thuedd i wneud sylwadau anaeddfed yn atgoffa cefnogwyr y Ceidwdadwyr gyn lleied o obaith sydd gan y Ceidwadwyr yn lleol."

Roedd sylwadau Mr Smith yn "gwbl ddi-chwaeth ac anfoeseol" yn ôl llefarydd ar ran Plaid Cymru.

"Fodd bynnag, ymddengys bod y tair plaid Lundeinig yn benderfynol o droi'r etholiad hwn mewn i gystadleuaeth o daflu baw er mwyn osgoi trafod y pynciau sy'n bwysig i bobl Cymru."

Gwrthododd Llafur Cymru roi sylw.

Daw'r newyddion wedi i Joe Lock, ymgeisydd Llafur yn Ynys Mon, ymddiheuro ddydd Iau am sylwadau wnaeth y llynedd am y cyn Brif Weinidog, Margaret Thatcher.



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific