Cafodd y cyfansoddwr Paul Mealor ei eni yn Llanelwy
|
Mae cerddoriaeth cyfansoddwr o Gymru, Paul Mealor, yn cael ei pherfformio yn ystod Priodas y Tywysog William a Kate Middleton. Roedd hyn yn "sioc" i'r cyfansoddwr 35 oed sy'n byw ar Ynys Môn. Bu'n rhaid iddo gadw'r newyddion yn gyfrinachol am gyfnod, hyd yn oed oddi wrth ei deulu. "Roeddwn yn falch iawn o glywed bod Y Tywysog wedi dewis fy ngherddoriaeth," meddai. Cafodd Ubi Caritas ei berfformio am y tro cyntaf ym mis Hydref ym Mhrifysgol St Andrew lle gwnaeth y Tywysog a Kate Middleton gyfarfod. Roedd y perfformiad yn ystod ymweliad y cwpl â'r brifysgol. Cafodd y cyfansoddwr ei eni yn Llanelwy, tref sydd â chysylltiadau â'r cyfansoddwr William Mathias a lle y cynhelir Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru bob blwyddyn. Erbyn hyn mae'r cyfansoddwr yn dysgu ym Mhrifysgol Aberdeen ac yn rhannu ei amser rhwng Yr Alban ac Ynys Môn lle mae ganddo stiwdio. Yn y briodas hefyd fe fydd cerddoriaeth cyfansoddwyr eraill fel Elgar a Vaughan Williams.
|