British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 28 Ebrill 2011, 14:43 GMT 15:43 UK
Clwb yn llwyddo i dalu 200,000

Y Cae Ras
Bydd y clwb yn cystadlu yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi llwyddo i dalu bil treth o £200,000 sy'n golygu eu bod yn gallu cystadlu yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

Mewn cynhadledd newyddion yn y Cae Ras brynhawn Iau cyhoeddwyd bod y ddyled wedi cael ei thalu'n llawn oherwydd rhodd ddienw, benthyciadau a rhoddion y cyd-berchennog, Ian Roberts, a chyn-Aelod Seneddol y dref, John Marek, sy'n ymgeisydd Ceidwadol yn Etholiad y Cynulliad.

Roedd swyddogion Uwchgynghrair Blue Square wedi dweud bod rhaid i'r ddyled gael ei thalu erbyn diwedd y diwrnod cyn iddyn nhw ganiatáu i Wrecsam gystadlu yn y gemau ail gyfle a cheisio ennill dyrchafiad i'r Cynghrair Pêl-droed.

Dywedodd yr ymgeisydd Llafur, Lesley Griffiths: "Dwi'n siwr y bydd pob cefnogwr yn teimlo rhyddhad gan na fydd y problemau ariannol yn atal y clwb rhag chwarae yn y gemau ail gyfle."

Mae ymgeisydd Plaid Cymru, Marc Jones, wedi dweud: "Dwi'n falch iawn fod y ddyled wedi ei chlirio ond ni ddylen ni fod wedi cyrraedd y sefyllfa hon ... yr ateb ar frys yw bod y gymuned yn berchen ar y clwb."

Dywedodd Bill Brereton, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol: "Dwi'n barod i gydweithio a gwleidyddion o bob plaid a'r gymuned er mwyn sicrhau y bydd y clwb yn goroesi."

Fe fydd Wrecsam yn wynebu Luton dair gwaith dros y pythefnos nesaf, gan deithio i Kenilworth Road ddydd Sadwrn yng ngêm olaf y tymor.

Fe fyddan nhw wedyn yn eu croesawu i'r Cae Ras ar gyfer cymal cyntaf rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ar Fai 5 cyn teithio'n ôl i Kenilworth Road ar gyfer y cymal olaf ar Fai 10.

£125,000

Dydd Llun fe lansiodd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam apêl am fuddsoddwyr er mwyn gwneud cynnig gwerth £1 miliwn i brynu'r clwb.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ymddiriedolaeth eu bod eisoes wedi codi dros £125,000 o addewidion ar gyfer y gronfa.

Mewn taflen a ddosbarthwyd yn y gêm yn erbyn Tamworth ddydd Llun galwodd yr ymddiriedolaeth ar gefnogwyr i roi'r clwb yn nwylo'r gymuned.

Dywedodd Terry Heath ar ran yr ymddiriedolaeth nad oedd rheswm pam na allai'r clwb oroesi os oedd yn cael ei redeg yn iawn - ond y byddai angen torf o 4,000 i bob gêm.

Roedd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cyflwyno deiseb i ddirwyn y clwb i ben ar Fai 11.



HEFYD
'Buddsoddwch ar unwaith'
16 Ebr 11 |  Newyddion
Wrecsam: Tro arall yn y stori
15 Maw 11 |  Newyddion
Dau gais posib i brynu clwb
26 Chwef 11 |  Newyddion
Cefnogwyr yn trafod i brynu clwb
23 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific