Hen chwarel wedi ei haddasu yw'r ganolfan yn Tidenham
|
Mae deifiwr wedi marw ar ôl iddo fynd i drafferthion yn y Ganolfan Ddeifio Brydeinig yn Sir Gaerloyw. Dyw enw'r dyn 55 oed o'r Fenni ddim wedi cael eu cyhoeddi eto. Roedd yn deifio gyda dyn arall pan aeth y ddau i drafferthion mewn dŵr dwfn ar safle'r hen chwarel yn Tidenham ger Lydney. Pan gyrhaeddodd ambiwlans roedd y ddau yn gorwedd ar lanfa wedi iddyn nhw gael eu tynnu o'r dŵr. Cafodd y dyn 55 oed ei gludo ar frys i Ysbyty Frenchay ger Bryste ond roedd wedi marw erbyn iddo gyrraedd yno. Fe gafodd y dyn arall driniaeth gan feddyg y ganolfan ac yna mewn siambr ddatgywasgu. Dywed yr heddlu nad oes amgylchiadau amheus a'u bod wrthi'n paratoi adroddiad i grwner Sir Gaerloyw.
|