British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 28 Ebrill 2011, 05:46 GMT 06:46 UK
Ymgynghorydd annibynnol i annerch Pawb

Dr Ian Fairlie
Dr Ian Fairlie yw siaradwr gwadd cyfarfod PAWB

Ymgynghorydd annibynnol ar ymbelydredd yn yr amgylchedd fydd yn annerch cyfarfod cyhoeddus mudiad sy'n gwrthwynebu codi atomfa newydd ar Ynys Môn.

Mae mudiad Pawb, Pobl yn Atal Wylfa B, wedi gwahodd Dr Ian Fairlie i'r cyfarfod nos Iau.

Daw'r cyfarfod yn ystod yr wythnos pan gofnodwyd 25 mlynedd ers trychineb Chernobyl ac wythnosau yn unig ar ôl yr hyn ddigwyddodd yn Japan.

Mae 'na gryn drafod yn lleol ynglŷn â chodi atomfa newydd ar safle Wylfa.

Ar ddiwedd mis Mawrth fe ddywedodd Horizon Nuclear Power fod angen atomfa newydd ar yr ynys erbyn 2020.

Dywedodd Horizon Nuclear Power y byddai'n gwneud cais cynllunio i godi atomfa fyddai'n cynhyrchu 3,300Mw o drydan yn 2012.

Fe allai hyn olygu 800 o swyddi parhaol o ansawdd uchel, 200 yn ychwanegol o ran cynnal a chadw a hyd at 1,000 yn ystod y cyfnod adeiladu.

Doethur

Ond dywedodd Pawb bod ymbelydredd adweithyddion Fukushima Daiichi yn Japan wedi llygru'r amgylchedd ac wedi mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ac i ddŵr yfed mor bell i ffwrdd a Tokyo - 150 milltir i ffwrdd.

Yn ôl Pawb mae gan Dr Fairlie raddau mewn cemeg a bioleg ymbelydredd ac mae ei astudiaethau doethur yn yr Imperial College of Science Technology and Medicine ym Mhrydain ac ym Mhrifysgol Princeton yn yr Unol Daleithiau wedi canolbwyntio ar dechnolegau gwastraff niwclear.

Gweithiodd fel ymgynghorydd i adrannau llywodraeth ac amgylchedd ac yn fwyaf diweddar roedd yn ysgrifennydd gwyddonol i Committee Examining Radiation Risks of Internal Emitters (www.cerrie.org) Llywodraeth Prydain.

Fe fydd y cyfarfod yng Nghapel Berea Newydd, Bangor nos Iau.



HEFYD
Chernobyl: Adolygu dulliau
26 Ebr 11 |  Newyddion
Gwaddol Chernobyl: Barn y pleidiau
26 Ebr 11 |  Newyddion
Trafod diogelwch gorsafoedd niwclear
23 Maw 11 |  Newyddion
30 mewn protest gwrthniwclear
30 Maw 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific