British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 28 Ebrill 2011, 05:37 GMT 06:37 UK
Mwy o rybudd i gwsmeriaid

Fflam nwy
Rhaid i'r cwmniau roi rhybudd o 30 niwrnod cyn codi pris nwy a thrydan

O hyn ymlaen mae'n rhaid i gwmnïau nwy a thrydan roi o leia' 30 niwrnod o rybudd i'w cwsmeriaid cyn codi eu prisiau.

Roedd cyflenwyr yn arfer cael codi prisiau ac yna gadael i gwsmeriaid wybod hyd at dri mis wedi'r cynnydd.

Ym mis Mawrth fe wnaeth y corff sy'n rheoli'r diwydiant ynni, Ofgem, y byddai'r drefn yn newid o Ebrill 28 ymlaen.

Dywedodd Llais Defnyddwyr Cymru bod yr hen drefn yn annheg.

"Cwsmeriaid yn gallu gwneud dewis - gwybod be sy'n digwydd," meddai Gareth Price o Lais Defnyddwyr Cymru.

Arferion gwael

"Maen nhw'n gallu trefnu eu harian yn well, talu'r bil uchel neu ddewis newid y cyflenwyr.

"Wedi gofyn am beth amser i newid y drefn roedd hin annheg bod y pris yn codi heb i gwsmeriaid fod yn ymwybodol."

Mae'r newid yn rhan o gynllun ehangach gan Ofgem i ddiwygio'r farchnad ynni a thaclo arferion gwael.

Maen nhw hefyd yn awyddus i leihau dylanwad cwmnïau mwya'r diwydiant.

"Mae'n dda gweld Ofgem yn herio pŵer y cwmnïau," meddai Mr Price eto.

"Does 'na ddim digon o gystadleuaeth o fewn y chwe chwmni mawr.

"Mae'n bwysig herio eu pŵer a chael marchnad llawer mwy agored."

Mae Ofgem hefyd wedi ymestyn y cyfnod y mae disgwyl i gwmnïau rewi telerau cwsmeriaid sy'n mynegi awydd i symud at gyflenwr arall o fewn pedair wythnos o gael gwybod bod eu biliau ar fin codi.

Bydd yn rhaid i'r cyflenwr ymatal rhag codi'r pris uwch am bedair wythnos - yn hytrach na phythefnos - o hyn ymlaen.

Bwriad y newid yma yw annog cwmnïa i ddelio a cheisiadau yn brydlon fel bod cwsmeriaid ddim ar eu colled oherwydd oedi.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific