British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 29 Ebrill 2011, 05:47 GMT 06:47 UK
Pawb a'i farn ar fusnes

Dylan Jones
Dylan Jones fydd yn cadeirio'r drafodaeth

Wythnos cyn Etholiad y Cynulliad roedd BBC Cymru yn darlledu dadl deledu i roi cyfle i gynulleidfa holi gwleidyddion o'r pedair prif blaid.

Yn trafod yr economi, addysg, ynni niwclear a chost y briodas Frenhinol roedd Alun Davies ar ran Llafur, Nerys Evans ar ran Plaid Cymru, Eleanor Burnham ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol a Richard Hopkin ar ran y Ceidwadwyr.

Dylan Jones oedd yn cadeirio'r sesiwn drafod yn fyw o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe nos Iau.

Cododd dadl rhwng Ms Evans a Mr Hopkin, wrth i Ms Evans ymosod ar bolisi'r Ceidwadwyr o ddileu trethi busnes.

Byd busnes

Dywedodd ei bod "yn hollol anghywir i ddweud y bydden nhw'n ariannu hwnna trwy werthu tir."

Gwrthododd Mr Hopkin y ddadl.

"£40 miliwn o bunnau yw'r gost," meddai.

"Mae cyllideb y Cynulliad wedi ei osod ac mae'n fater o flaenoriaeth.

"Rydyn ni'n credu ei bod hi'n bwysig i roi hwb i fusnesau bach."

Yn ôl Ms Evans mae'r polisi'n "anghynaladwy."

Ymosododd Mr Davies ar y Ceidwadwyr gan ddweud bod eu toriadau yn y sector gyhoeddus yn "crogi tyfiant."

Clodforodd Ms Burnham bolisi'r glymblaid yn San Steffan ar drethi.

"Mae'n allweddol, rhai pethau maen nhw'n gwneud yn San Steffan. Gallen nhw helpu," meddai.

"Lleihau treth i bobl dlawd - mae hynny'n allweddol i rai."

Addysg

Roedd ymosodiadau ar record Llafur ar addysg, gyda Mr Davies yn gwadu bod bwlch o £600 rhwng gwariant ar addysg yn Lloegr a Chymru.

"Pan rydych chi'n edrych ar faint mae Llywodraeth Cymru'n gwario ar addysg a faint mae llywodraeth San Steffan yn gwario ar addysg, byddwch chi'n gweld bod llywodraeth Cymru yn gwario ychydig yn fwy," meddai.

"Rydyn ni'n sôn am y gwahaniaeth sy'n cael ei wario gan awdurdod lleol - dyna'r system sydd gyda ni a rhaid edrych ar y system.

"Rwy'n credu mewn rheolaeth yn lleol ond rhaid sicrhau ei fod e'n gweithio."

Mynnodd Mr Hopkin y gellid arbed llawer o arian trwy ariannu ysgolion yn uniongyrchol o'r llywodraeth.

"Mae'n bwysig i arbed yr arian sy'n cael ei wastraffu rhwng yr ysgolion a'r Cynulliad," meddai.

"Byddwch chi'n cymryd £100 miliwn mas o'r system am fiwrocratiaeth, mae'n sgandal bod y gap hyn o £600.

"Rhaid rhoi rhyddid iddyn nhw [athrawon] i wneud y gwaith yn reit."

Dywedodd Ms Burnham bod y sefyllfa yn "fregus."

"Mae'n syndod ar ôl cymaint o amser bod y bwlch mor fawr.

"Mae angen edrych ar ansawdd y dysgu a helpu athrawon sy'n delio efo plant sy'n anodd."

Byddai Plaid Cymru yn canolbwyntio ar wella sgiliau sylfaenol, meddai Ms Evans.

"Does dim dwywaith, rhaid taclo diffygion y sector addysg," meddai.

"Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i edrych ar rifedd a llythrennedd."

Ymosododd Ms Evans ar bwynt ym maniffesto Llafur gan ddweud bod y blaid yn "camu nôl" o'r strategaeth addysg Gymraeg a gyflwynwyd gan y Llywodraeth sy'n cefnogi addysg cyfrwng Cymraeg fel y ffordd orau o wneud dinasyddion dwyieithog.

Dywedodd Mr Davies bod Ms Evans yn camarwain, a bod Llafur wedi ymrwymo i'r strategaeth.



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific