Gan fod iechyd yn gyfrifol am 40% o wariant Llywodraeth y Cynulliad, mae polisïau'r pleidiau ar ddyfodol y gwasanaeth iechyd wedi denu tipyn o sylw.
Yr her yn yr hinsawdd economaidd bresennol yw sut i ddarparu gwasanaethau o safon gyda thoriadau yng nghyllideb y Cynulliad.
Dadansoddiad Hywel Griffith
Dros y ddegawd ddiwethaf, mae'r ddadl dros ddyfodol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi canolbwyntio ar sut a ble i wario arian.
P'un ai cyflwyno prescripsiynau am ddim, neu argaeledd cyffuriau cansyr - roedd penderfyniadau yn cael eu gwneud mewn cyfnod o wariant hanesyddol.
Ond yn etholiad 2011 - ble i dorri yw'r cwestiwn mawr.
Mae Byrddau Iechyd yng Nghymru eisoes wedi ceisio gweithredu arbedion - gwerth tua £400m yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gyda llawer mwy i ddod.
Maen nhw wedi dechrau ad-drefnu gwasnaethau a thorri nôl ar gostau staff.
Pwy bynnag sy'n dod i rym, bydd rhaid parhau â rhai newidiadau.
Nid dim ond pwysau ariannol sydd yna ar y Gwasanaeth Iechyd - bydd rhaid newid er mwyn ymdopi â'r cynydd enfawr yn y nifer o gleifion yn y dyfodol wrth i bobol fyw yn hwy.
Er nad yw ad-drefnu gwasanaethau fyth yn boblogaidd iawn gyda phleidleiswyr, bydd rhaid i'r llywodraeth nesaf wneud penderfyniadau anodd - sy'n anhebygol o blesio pawb.
Beth yw ateb y pleidiau?
Llafur
Darparu mwy o wasanaethau iechyd yn lleol. Bydd hyn yn gofyn am ad-drefnu gwasanaethau i gynnig mwy o ofal yn y gymuned, yn agosach i gartrefi cleifion.
Gwella cefnogaeth a gofal i bobl sydd wedi cael diagnosis o ac yn gwella o gancr, a swyddog cyswllt penodol i bob person â chancr.
Democratiaid Rhyddfrydol
Torri amser aros am driniaeth trwy gael gwared ar wastraff. Gwella gofal iechyd trwy symud gwariant aneffeithiol yn y gwasanaeth iechyd i'r rheng flaen.
Codi'r cyllid personol am wasanaethau gofal yn gyflym, gan roi cyllideb y gall pobl ei reoli eu hunain. Gallan nhw benderfynu sut i wario'r arian er mwyn ateb ei gofynion gofal ei hunain, yn dilyn gofynion cynllun cefnogaeth bersonol.
Plaid Cymru
Meddyg a deintydd - pan mae ei angen. Gofal iechyd cyflymach a mwy effeithiol trwy ail-drafod cytundebau meddygon teulu a deintyddion i gynyddu'r amser maen nhw ar gael a'i gwasanaethau tu allan i oriau gwaith arferol
Lleihau rhestrau aros a pharhau gyda'r ymrwymiad i gryfhau ysbytai cyffredinol fel bod gwasanaethau mor agos at y bobl ag sy'n bosibl
Ceiwadwyr
Gwarchod cyllideb y gwasanaeth iechyd a chael gwared ar wastraff mewn gwariant ar iechyd.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.