British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 27 Ebrill 2011, 17:18 GMT 18:18 UK
Teyrngedau i ddisgybl ysgol

Gabby Joseph
Roedd Gabby Joseph yn 16 oed

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddisgybl ysgol fu farw ar reilffordd ddydd Llun.

Cafodd Gabby Joseph, cyn-ddisgybl 16 oed yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, ei tharo gan drên yng ngorsaf reilffordd Llansawel, ger Castell-nedd.

Mae blodau wedi eu gadael ger y safle.

Dywedodd un o lywodraethwyr yr ysgol, Alun Llewelyn: "Bydd pawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol yn drist iawn i glywed y newyddion.

"Roedd hi'n ferch dalentog ac roedd ganddi lawer o ffrindiau.

"Roedd hi wedi cwblhau ei TGAU.

"Rydym yn meddwl am ei theulu a'i ffrindiau."

Model

Dywedodd yr Heddlu Trafnidiaeth, a gafodd alwad am 9.29pm ddydd Llun, nad oedden nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus.

Mae blodau wedi eu gadael ger y safle
Mae blodau wedi eu gadael ger y safle

Roedd Gabby yn awyddus i fod yn fodel ond dywedodd y ffotograffydd Richie Crossley, o Chic Productions yn Abertawe, ei bod am gwblhau ei hastudiaethau cyn troi at fodelu llawn amser.

"Roedd hi'n ferch hyfryd, yn ddoniol ac roedd pawb yn ei charu.

"Roedd Lefel A yn flaenoriaeth iddi, roedd hi'n ferch alluog iawn."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific