Mae consensws ymysg arbenigwyr iaith mai addysg cyfrwng Cymraeg yw'r ffordd o sicrhau dinasyddion dwyieithog. Ond beth mae maniffestos y prif bleidiau yn cynnig o ran addysg Gymraeg?
CEIDWADWYR
O dan y pennawd 'Llais newydd dros dreftadaeth' mae'r Ceidwadwyr yn addo y bydd llywodraeth Geidwadol yn: "Cynnig pecyn o gymorth i rieni a gwarcheidwaid plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, i gynnwys cymorth i ddysgu Cymraeg." Does dim cyfeiriad at addysg cyfrwng Cymraeg yn benodol o dan y pennawd 'Llais newydd dros Addysg.'
DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn addo "cwtogi ar nifer y rheoliadau ynglŷn â sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg a sicrhau nad yw penderfyniadau am ad-drefnu ysgolion byth yn cael eu gwneud am resymau gwleidyddol."
PLAID CYMRU
Mae pennawd arbennig ar gyfer dysgu cyfrwng Cymraeg gan Blaid Cymru, 'Dysgu Cymraeg i'r genhedlaeth nesaf.' Addewid i "ymateb i'r galw am ddarparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg trwy gynyddu nifer y plant a ddysgir yn y Gymraeg a mynd dros y targedau yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg" sydd gan Blaid Cymru. Maen nhw hefyd yn dweud y byddan nhw'n ystyried deddfu i sicrhau bod awdurdodau addysg yn mesur y galw am addysg Gymraeg os na fyddan nhw'n gwneud hynny'n wirfoddol. Bwriad arall yw "cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio TGAU a chymwysterau 16-19 trwy gyfrwng y Gymraeg a gwella darpariaeth addysg Gymraeg i blant ag Anghenion Addysg Arbennig." Maen nhw am wella'r ffordd o ddysgu Cymraeg fel ail-iaith a gwella hyfforddiant i athrawon ail iaith. "Byddwn yn edrych ar gyflwyno Cymraeg fel pwnc craidd ar lefel TGAU a datblygu cyrsiau galwedigaethol ôl-16 dwyieithog."
LLAFUR
Mae pennawd arbennig gan 'Addysg Cyfrwng Cymraeg' ym maniffesto Llafur. Mae canmoliaeth i ddwyieithrwydd yn Ewrop ac mae'r maniffesto'n dweud mai "addysg ddwyieithog yw'r norm yn hytrach na'r eithriad" ar y cyfandir "a dylid ystyried system addysg dwy iaith fel cryfder unigryw." Eisiau "adeiladu ar gyflawniadau presennol Llafur" maen nhw, "fel ymestyn darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg y blynyddoedd cynnar a byddwn yn cyflwyno Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn ystod cyfnod nesaf y Cynulliad." Addewid arall yw i wneud cynllunio addysg Gymraeg yn rhan o ddeddf. Mae Llafur hefyd yn bwriadu "parhau i annog ysgolion cyfrwng Saesneg i gynnig y dewis o wneud rhai pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg. "Byddwn yn ystyried llwyddiant ysgolion sydd yn cynnig y cwricwlwm trwy gyfrwng ein dwy iaith genedlaethol yn ofalus ac yn ystyried sut y gellir ymestyn y model hwn."
|