British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 27 Ebrill 2011, 15:04 GMT 16:04 UK
Adfer addysg ddwy-ieithog?

Plant ar fuarth ysgol
Mae ysgolion dwyieithog yn apelio at rieni di-Gymraeg yn nl RhAG

Mae arbenigwyr iaith a gwleidyddion fel ei gilydd wedi cydnabod ers tro mai addysg cyfrwng Cymraeg yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau dinasyddion dwyieithog yng Nghymru.

Ond mae geiriad maniffesto Llafur ar addysg ddwyieithog wedi arwain at gyhuddiadau gan Blaid Cymru bod y blaid yn atgyfodi'r syniad o ysgolion dwyieithog ac mae ymgyrchwyr iaith yn pryderu y gallai'r syniad fod nôl ar yr agenda.

Neges Rhieni dros Addysg Gymraeg yw mai dim ond addysg cyfrwng Cymraeg all sicrhau bod disgyblion yn gadael yr ysgol yn ddwyieithog.

'Dwy iaith'

Y sylw dadleuol yn y maniffesto yw: "Byddwn yn ystyried llwyddiant ysgolion sydd yn cynnig y cwricwlwm trwy gyfrwng ein dwy iaith genedlaethol yn ofalus ac yn ystyried sut y gellir ymestyn y model hwn."

Yn ôl Tim Pearce o'r mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg "mae ysgolion dwyieithog yn apelio at rieni di-Gymraeg sydd ddim yn deall bod dwyieithrwydd yn dod yn sgîl addysg Gymraeg."

Ei bryder yw bod maniffesto Llafur yn awgrymu y gallai ysgolion dwyieithog gynnig ateb i'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg.

"Y broblem yw y gallai wneud i bobl feddwl bod model dwyieithog yn well neu cystal â model cyfrwng Cymraeg. Dyw e ddim.

"Model cyfrwng Cymraeg yw'r model gorau i greu dwyieithrwydd."

Ond mae Llafur yn mynnu nad yw ei maniffesto yn awgrymu rhoi diwedd i addysg cyfrwng Cymraeg.

"Dydyn ni ddim yn awgrymu ein bod yn edrych ar ad-drefnu addysg Gymraeg yn sylfaenol," meddai llefarydd ar ran Llafur.

"Fel mae'r pwynt cyntaf yn y maniffesto yn ei ddweud, rydym yn edrych ar ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

"Mae'r frawddeg dan sylw yn cyfeirio'n fwy tuag at edrych ar yr enghraifft yn Nhreorci o gynnig darpariaeth fwy swmpus cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

"Mae ein maniffesto wedi ymrwymo i weithredu Strategaeth Addysg Gymraeg (Llafur) fel a osodwyd gan Leighton Andrews y llynedd i groeso mawr."

'Hen, hen ddadl'

Dydy Nerys Evans o Blaid Cymru ddim yn credu bod y Blaid Lafur yn ddigon clir wrth egluro'i safbwynt ar gynnig y cwricwlwm mewn Cymraeg a Saesneg.

"Maen nhw'n bod yn amwys iawn," meddai.

"Mae rôl gan ysgolion fel Treorci i chwarae ond mae'r Strategaeth Addysg Gymraeg [yn dweud] a chred y blaid a lot o arbenigwyr annibynnol yw mai addysg Gymraeg yw'r ffordd ymlaen i greu pobl ifanc ddwyieithog.

"Mae hon yn hen, hen ddadl," meddai am gynnig addysg yn y Gymraeg a'r Saesneg.

"Ry'n ni'n hynod siomedig bod Llafur yn cymryd cam yn ôl.

"Mae'n dangos diffyg dealltwriaeth ymysg y Blaid Lafur o sut i greu Cymru ddwyieithog.

"Mae model Treorci yn iawn i Dreorci, ond dyw e ddim yn iawn i Gaerfyrddin, dyw e ddim yn iawn i Geredigion, dyw e ddim yn iawn i blant sydd eisiau addysg Gymraeg.

"Nid addysg Gymraeg sydd yn Nhreorci. Os yw'r galw gan rieni am addysg Gymraeg, nid addysg ddwyieithog ddylen ni fod yn ei ddarparu."

'Cefnogi'

Does dim sylw ar addysg cyfrwng Gymraeg ym maniffesto'r Ceidwadwyr ond dywedodd llefarydd ar ran y blaid ei bod yn "llwyr gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg.

"Rydym ni eisiau i fwy o benderfyniadau gael ei gwneud gan athrawon, rhieni a llywodraethwyr ar lefel lleol.

"Trwy gyllido ysgolion yn uniongyrchol fe fyddwn ni'n torri dros £100 miliwn o bunnau mewn biwrocratiaeth yn flynyddol a grymuso'r bobol hynny sy'n gwybod beth sydd orau i ysgolion.

"Mae maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn dweud y byddwn ni'n gweithio tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2031 ac 1.5 miliwn erbyn 2051."

Yn ôl llefarydd ar ei rhan, "mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cydnabod pwysigrwydd addysg ddwyieithog ac yn gefnogol iawn gan ei fod yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ar hyd Cymru.

"Ar addysg Gymraeg, bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cwtogi ar y nifer y rheoliadau ynglŷn â sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg a sicrhau nad yw penderfyniadau am ad-drefnu ysgolion byth yn cael eu gwneud am resymau gwleidyddol."

Mae manylion polisïau maniffesto'r pleidiau ar addysg Gymraeg ar gael yma



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific