Ychydig dros wythnos sydd 'na i fynd bellach nes y bydd pobl Cymru yn dewis pwy fydd yn ein cynrychioli yn y Cynulliad am y pum mlynedd nesaf.
Ac wrth i ddydd y bleidlais agosau, mae Newyddion ar daith yn clywed pa bynciau sy'n cael eu trin a'u trafod ar lawr gwlad.
Dros y dyddiau nesaf bydd Rhodri Llywelyn yn croesi Cymru, a daw yr adroddiad hwn o Rydycroesau ym Mhowys.