British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 27 Ebrill 2011, 17:23 GMT 18:23 UK
Ymddiheuriad ymgeisydd am sylwadau ar wefan

Cynulliad
Joe Lock yw ymgeisydd Llafur ar gyfer Etholiad y Cynulliad

Mae ymgeisydd Llafur ar gyfer Etholiad y Cynulliad ar Ynys Môn wedi ymddiheuro ar ôl cael ei feirniadu am negeseuon "difrifol o amhriodol" ar wefan Facebook.

Roedd negeseuon Joe Lock, 25 oed, yn cynnwys un oedd yn dweud ei fod yn gobeithio y byddai Margaret Thatcher yn marw'n fuan.

Wrth ymddiheuro, dywedodd fod ei sylwadau "yn wirion" ac nad oedd esgus.

Dywedodd y Ceidwadwyr fod ei sylwadau yn gwbl annerbyniol ar gyfer ymgeisydd ar gyfer y Cynulliad.

Cafodd Mr Lock ei ddewis yn gynharach eleni yn ymgeisydd Llafur i herio arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, ar Fai 5.

Ar y pryd dywedodd yr AS Llafur lleol, Albert Owen, ei fod yn un oedd "yn cynrychioli cenhedlaeth newydd y mae gwleidyddiaeth yn effeithio yn drwm arni".

Ond mae gwrthwynebwyr gwleidyddol wedi ei feirniadu'n hallt oherwydd sawl sylw ar y we ers 2010.

Ymddiheuriad

Maen nhw'n galw ar arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, Carwyn Jones, i ymbellhau oddi wrth yr ymgeisydd.

Dywedodd Mr Lock ei fod yn derbyn yn llwyr na ddylai fod wedi gwneud y sylwadau. "Rwy'n ymddiheuro yn daer i unrhyw un dwi wedi ei bechu.

"Dwi wedi cynnig ymddiheuriad personol i'r Blaid Lafur Gymreig, i'r blaid yn lleol ac i Carwyn Jones am unrhyw gywilydd dwi wedi ei achosi.

"Roedden nhw'n sylwadau gwirion ar gyfer fy ffrindiau ond dydi hynny ddim yn esgus," meddai.

Roedd ei feirniadaeth o Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, yn ystod cyfnod trafod Clymblaid San Steffan y llynedd yn cynnwys rhegfeydd.

Fe bostiodd gysylltiad i grŵp ar Facebook, 'Is Margaret Thatcher Dead Yet?' a'i sylw oedd: "fydd hyn ddim yn hir, dwi'n croesi 'mysedd".

Sylw arall oedd ei fod "yn caru'r Ceidwadwyr ar yr amod bod pigyn yn eu trywanu".

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol fod y sylwadau "yn gwbl annerbyniol i unrhyw un sy'n ymgeisio am swydd gyhoeddus".

Yn unfrydol

"Does dim lle mewn gwleidyddiaeth ar gyfer sylwadau eithafol sy'n ymddangos eu bod yn annog trais.

"Fe fydd etholwyr Cymru yn disgwyl i Carwyn Jones ymbellhau oddi wrth y sylwadau mor fuan â phosib a chymryd camau priodol."

Mewn cyfarfod ym mis Chwefror fe gefnogodd y blaid leol Mr Lock, myfyriwr gwleidyddiaeth hŷn sydd wedi cael amser i ffwrdd, yn unfrydol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur nos Fawrth eu bod wedi sylwi ar sylwadau Mr Lock a gafodd eu hysgrifennu "beth amser cyn iddo fod yn ymgeisydd".

"Mae'r sylwadau yn gwbl annerbyniol ac rydym wedi rhoi rhybudd i Mr Lock ...

"Gallai'r sylwadau fod wedi eu gwneud yn gellweirus pan oedd yn fyfyriwr ond dyw bod yn ifanc ac yn ddiniwed ddim yn amddiffyniad ar gyfer gwneud sylwadau cwbl anaddas."

Sarhaus

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mae angen i Carwyn Jones ymbellhau oddi wrth y sylwadau....

"Gan ei fod wedi bod yn ymgyrchu gyda Joe Lock dros y misoedd diwethaf, fe ddylai hyn fod yn embaras i'r arweinydd Llafur.

"Mae defnyddio'r math yma o iaith yn gwbl anaddas ac nid yw'n ymddygiad derbyniol gan un sy'n ceisio cael ei ethol ac rydym yn gwybod bod pobl Ynys Môn yn credu eu bod yn sylwadau sarhaus hefyd.

"Mae angen i'r arweinydd Llafur ymchwilio yn syth i sicrhau bod 'na ymddiheuriad i bobl Ynys Môn am ymddygiad eu hymgeisydd."



NEWYDDION
PLAID ETHOL RHANB CYF +/-
LLAF 28 2 30 +4
CEID 6 8 14 +2
PC 5 6 11 -4
DR 1 4 5 -1
ARALL 0 0 0 -1

Ar ôl cyhoeddi 40 o'r 40 sedd

YR YMGYRCH
YR ARWEINWYR
PYNCIAU LLOSG
BARN Y PLEIDIAU
MANIFFESTO
YMGYRCHOEDD
CEFNDIR

Y RHANBARTHAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific