British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 26 Ebrill 2011, 17:47 GMT 18:47 UK
Undeb am drafod Henson a Powell

Andy Powell a Gavin Henson
Mae Andy Powell a Gavin Henson wedi eu gwahardd gan eu clybiau

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi galw am gyfarfod â dau o chwaraewyr rygbi Cymru y mae eu clybiau wedi eu gwahardd.

Roedd rhai adroddiadau yn gynharach ddydd Mawrth fod gyrfa'r canolwr Gavin Henson yn Toulon, Ffrainc, ar ben.

Yn ôl papur newydd L'Equipe fydd Henson ddim yn chwarae i'r clwb eto ar ôl chwarae dwy gêm.

Ond mae BBC Cymru yn deall y bydd 'na drafodaethau rhwng y chwaraewr a'r clwb.

Cafodd Henson ei wahardd ar ôl digwyddiad mewn clwb nos yn gynharach yn y mis.

Fe waharddodd Wasps y blaenwr Andy Powell yr wythnos diwethaf ar ôl digwyddiad mewn bar cyn iddo gael 10 pwyth yn ei ben.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru ddydd Mawrth: "Wedi adroddiadau am ddigwyddiadau diweddar, mae Prif Weithredwr yr Undeb, Roger Lewis, a Phrif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi gwneud cais i gael cyfarfod â Gavin Henson ac Andy Powell ...

"Hyd nes y bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal fydd 'na ddim sylw pellach."



HEFYD
Atal Gavin Henson rhag chwarae
18 Ebr 11 |  Newyddion
Rhybudd swyddogol i Henson
01 Ebr 09 |  Newyddion
Andy Powell wedi'i wahardd
19 Ebr 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific