British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 27 Ebrill 2011, 16:06 GMT 17:06 UK
Pwmpen enfawr i ddenu ymwelwyr i Ddyffryn Conwy

Darlun artist o'r gwaith uwchben Llanrwst
Darlun artist o'r gwaith uwchben Llanrwst

Gall pwmpen enfawr gael ei chodi yn Nyffryn Conwy er mwyn dathlu cyfraniad y rhai sy'n tyfu pwmpenni yn yr ardal.

Gwaith artist o Efrog Newydd, Steven Brower, yw'r cerflun 40 medr i uchel (131 troedfedd).

Cafodd y syniad ar ôl mynd i weld panto yn Llandudno a gweld pwmpenni yn tyfu ger Castell Conwy.

Ei fwriad yw gosod y gwaith celf yng Nghoedwig Gwydr ger Llanrwst.

Llywodraeth y Cynulliad yw perchnogion y goedwig a ddywedodd y byddai'n rhaid i'r cyngor lleol ddelio gydag unrhyw gais cynllunio.

Caiff y syniad gefnogaeth ARC, grŵp o Lanrwst sy'n ceisio hybu twristiaeth yn Nyffryn Conwy drwy brosiectau adnewyddol, gan gynnwys gwaith celf.

'Rhyfedd ond prydferth'

Petai'r gwaith yn cael ei godi gallai gystadlu ag Angel y Gogledd yng ngogledd ddwyrain Lloegr.

"Yn Venue Cymru weles i'r panto cyntaf, dydan ni ddim yn gwneud llawer ohonyn nhw yn America," meddai Mr Brower.

"Mae'n draddodiad rhyfedd ond prydferth.

"Mae fy mhwmpen enfawr yn ddathliad o hynny, ond mae o hefyd fath o wrogaeth i'r rhai sy'n tyfu pwmpen Dyffryn Conwy ar hyn y canrifoedd."

Dywedodd Megan Broadmeadow o grŵp ARC, y byddai gosod y gwaith celf yn denu pobl o bob cwr o'r wlad.

"Fe fydd yn wych, nid yn unig, fel rhywbeth gweledol ond fe fydd yn addysgiadol, yn annog gweithgareddau amgylcheddol a hynny yn cael eu cynnal o fewn y gwaith celf drwy'r flwyddyn."

Ysgafnder

Does 'na ddim galw am arian ar gyfer y gwaith ond mae pobl leol yn cael dweud eu dweud.

Mae Anna Edwards o gaffi Contessa wedi bod yn casglu barn pobl a dywedodd mai ymateb cymysg sydd wedi bod.

"Mae rhai yn dweud ei fod yn syniad gwirion tra bod eraill yn dweud ei fod yn syniad da.

"Dwi'n credu bod pobl yn gweld yr ochr ysgafn," ychwanegodd.

Dywedodd Cyngor Conwy nad ydyn nhw'n ymwybodol o unrhyw gynlluniau.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific