British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 26 Ebrill 2011, 13:51 GMT 14:51 UK
Teyrngedau i'r actor Islwyn Morris

Cofio Islwyn Morris

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r actor Islwyn Morris fu farw yn oriau mân bore Mawrth.

Roedd yr actor 90 oed o Abertawe yn fwya' adnabyddus i Gymry Cymraeg fel cymeriad David Tushingham yng nghyfres deledu Pobol y Cwm. Bu'n chwarae'r rhan honno am 25 mlynedd.

Yn ystod y saithdegau bu'n chwarae rhan yr Arolygydd Idris Vaughan yn y gomedi Glas y Dorlan.

"Roedd Islwyn Morris yn un o'n hactorion mwyaf poblogaidd ni yng Nghymru," meddai Keith Jones, Cyfarwyddwr BBC Cymru.

'Dawn ddiamheuol'

"Fel 'Tush' roedd yn un o'r wynebau hynny a ddiffiniodd Pobol y Cwm, ochr yn ochr â chymeriadau fel Bella a Harri Parry.

Daeth â chynhesrwydd a chomedi gynnil i'r rhan fel y gwnaeth gyda rhannau eraill.

"Yn y blynyddoedd diweddar daeth yn boblogaidd gyda chynulleidfa newydd a gwahanol trwy gyfresi comedi Satellite City a High Hopes.

"Hoffwn dalu teyrnged i'w ddawn ddiamheuol fel actor a'i gyfraniad gwerthfawr i ddrama BBC Cymru."

Dywedodd Bethan Jones, Pennaeth Drama dros dro BBC Cymru: "Roedd Islwyn yn actor gwych a greodd gymeriadau cofiadwy fel y trwsiadus Mr Tushingham yn Pobol y Cwm a'r annwyl ond llai ffwdanus Idris Price yn y gomedi boblogaidd Satellite City.

"Nid yn unig ei ddawn fel actor fydd yn aros yn y cof ond ei gymeriad tawel a hoffus. Roedd Islwyn yn ŵr bonheddig."

'Actor gwych'

Chwaraeodd Islwyn ran y tad yng nghyfres deledu Satellite City gan BBC Cymru yn ystod y nawdegau ac fe ymddangosodd hefyd ar raglen High Hopes.

Ar ddechrau ei yrfa teledu, cafodd rannau yng nghyfresi Z Cars a The District Nurse.

Dywedodd Boyd Clack, awdur ac un o actorion Satellite City: "Fe wnes i gydweithio ag Islwyn ar Satellite City am chwe blynedd.

"Roedd yn actor gwych ac roedd yn anrhydedd i fod wedi'i adnabod a gweithio gydag e.

"Chwaraeodd ran fy nhad yn Satellite City. Fe gollais i fy nhad pan oeddwn i'n ifanc iawn ac roeddwn i'n meddwl am Islwyn mewn rhai ffyrdd fel ffigwr tadol.

"Roedd yn ddyn teulu mawr ac roedd ei ffydd yn golygu llawer iddo. Roedd bod yn ei gwmni yn bleser cyson."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific